Darlith O'Donnell 'People called Keltoi, the La Tène Style, and ancient Celtic languages: the threefold Celts in the light of geography'

Prifysgol Aberystwyth

01 Mai 2008

Darlith O'Donnell
‘People called Keltoi, the La Tène Style, and ancient Celtic languages: the threefold Celts in the light of geography'
Bydd yr Athro John Koch o Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn traddodi Darlith O’Donnell eleni ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Pwnc darlith yr Athro Kock fydd ‘People called Keltoi, the La Tène style, and ancient Celtic languages: the threefold Celts in the light of Geography’.

Cynhelir y ddarlith yn theatr ddarlithio A12 yn Adeilad Hugh Owen nos Fawrth 13 Mai a bydd yn dechrau am 7 o’r gloch. Estynnir croeso cynnes i bawb.

Fel arfer diwylliannau archeolegol o Oes yr Haearn, megis La Tène a Hallstatt o Ganolbarth Ewrop (750-450c.c. yn fras), sydd yn cael eu hadnabod fel tarddle’r Celtiaid. Prif nod y ddarlith hon yw dangos fod tystiolaeth well a chynharach o grwpiau a adnabuwyd gan y Groegiaid fel ‘Celtiaid’ Keltoi, ac o hen ieithoedd Celtaidd yn ne-orllewin eithaf Ewrop yn nheyrnas Tartessos, ardal sydd yn cael ei hadnabod heddiw fel de Portiwgal a de-orllewin Sbaen. Felly, mae gwreiddiau’r Celtiaid yn fwy tebygol o fod o Gyfnod Efydd Diweddar yr Iwerydd (tua 1200 i 750c.c), ardal ddiwylliannol oedd yn cynnwys Prydain.

Mae’r Athro Koch wedi bod yn gweithio yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth ers 1998. Cyn hyn bu’n dysgu Astudiaeth Celtaidd yng Ngholeg Boston a Phrifysgol Harvard yn yr Unol Daleithiau. Mae ei gyhoeddiadau yn cynnwys y bum cyfrol Celtic Culture: A Historical Encyclopedia (2006), An Atlas for Celtic Studies: Archaeology and Names in Ancient Europe and Early Medieval Ireland, Britain, and Brittany (2007), a The Gododdin of Aneirin: Text and Context in Dark-Age North Britain (1997).