Ffit ac Iach

Rheolwr y Ganolfan Chwaraeon Frank Rowe a Rachel Hubbard, Rheolwraig Aelodaeth

Rheolwr y Ganolfan Chwaraeon Frank Rowe a Rachel Hubbard, Rheolwraig Aelodaeth

13 Mai 2008

Mae Canolfan Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth yn lansio rhaglen wythnos o weithgareddau er mwyn cymell aelodau staff yn ofalu mwy em eu hiechyd – Dydd Llun 9 – Dydd Gwener 13 Mehefin.

Mae Rheolwraig Aelodaeth y Ganolfan Chwaraeon am weld gymaint a phosibl o bobl yn manteisio ar y cyfle hwn i gymryd camau bychain a syml tuag at well eu hiechyd. Dywedodd;
“Dewch i weld sut y gall bywyd iach, gweithgar trwy sesiynau ymarferol, darlithoedd, gwybodaeth ar mwynhad o gymryd rhan mewn chwaraeon fod yn sbardun i newid y ffordd rydych yn byw a gwella eich bywyd.”

Caiff digwyddiadau'r wythnos eu lansio gan yr Is-Ganghellor fore dydd Llun 9 Mehefin am 10 o'r gloch pan fydd hefyd yn lansio Polisi Iechyd a Lles ac Urddas yn y Gwaith y Brifysgol a gafodd ei ddatblygu gan staff yn Adran Adnoddau Dynol.

Mae’r rhaglen lawn ar gyfer yr wythnos fel a ganlyn:
Dydd Llun 9 Mehefin
10yb – Agoriad gan yr Is-Ganghellor
Lansio polisi Iechyd a Lles ac Urddas yn y Gwaith Prifysgol Aberystwyth
Taith i weld yr adnoddau – agored i staff, myfyrwyr a’r gymuned leol
Dosbarthiadau am ddim i roi tro arnyn nhw (cynhelir rhain drwy’r wythnos)

Dydd Mawrth 10 Mehefin
Bwyta’n Iach
Cyngor ar ddeiet – sut i golli pwysau – taflenni gwybodaeth, dosbarthiadau ymarfer corff
Profion Ffitrwydd am ddim yn y Ganolfan Chwaraeon.
Bwyd Iach – arddangosfeydd/gwybodaeth gan y Gwasanaeth Preswyl a Chroeso – gwybodaeth am fwydlenni a tocyn gostyngiad 50% ar sudd ffrwythau a ‘smwddis’ yn TaMed Da.
Sesiwn Siapio– ‘Body mass index’, sesiwn ymarfer corff, taflenni gwybodaeth. Swyddogaeth ymarfer corff wrth golli pwysau

Dydd Mercher 11 Mehefin
MOT
Monitro Pwysau Gwaed gan nyrs y Brifysgol – trefnu apwyntiad yn y Ganolfan Chwaraeon
Ymwybyddiaeth o effeithiau pwysau a phryder – sgyrsiau, taflenni, arddangosfeydd
Mynd am droeon iach o’r Ganolfan Chwaraeon

Dydd Iau 12 Mehefin
Iechyd
Gwybodaeth a chyngor am grydcymalau, osteoporosis ac ymarfer corff.
Profion ffitrwydd am ddim yn y gampfa
Dosbarthiadau gofal cefn ac ymlacio am ddim.

Dydd Gwener 13
Ffitrwydd
Clinigau campfa trwy’r dydd – dewch i siarad â hyfforddwr personol, cael cyngor ar hyfforddi
Heriau ffitrwydd – yn y gampfa e.e. Cymal o’r Tour de France, milltir y campws, neu her y felin draed.

Mae manylion pellach am wythnos Ffit ac Iach ar gael ar lein - gweler y ddolen gyswllt yn y golofn ar y dde. Os am drefnu lle ar ddosbarth neu fanylion pellach am ddarpariaeth y Ganolfan Chwaraeon gallwch gysylltu â Diane neu Rhian ar 01970 621500 neu drwy e-bost sports@aber.ac.uk.