Yr Hen Ffordd Gymreig

Phil Bennett (canol) gyda rhai o blant blwyddyn 6 Ysgol Dewi Sant, Llanelli

Phil Bennett (canol) gyda rhai o blant blwyddyn 6 Ysgol Dewi Sant, Llanelli

18 Tachwedd 2008

Ar fore dydd Mawrth, y 18fed o Dachwedd, roedd un o gyhoeddwyr adnoddau addysgol mwyaf Cymru, Y Ganolfan Astudiaethau Addysg, Prifysgol Abertystwyth, yn lansio cyfres o lyfrau darllen hanes ar gyfer plant 9-13 oed – ‘Yr Hen Ffordd Gymreig' / ‘The Old Welsh Way’ – yn stadiwm newydd sbon Parc y Scarlets, Llanelli. Cynhaliawyd y lansiad yn fuan wedi i Barc y Scarlets gael ei wneud yn gartref swyddogol rhanbarth y Scarlets.
 
Roedd Phil Bennett, cyn-chwaraewr enwog Llanelli a Chymru yn oes aur rygbi Cymru, yn siaradwr gwadd yn y digwyddiad, a bu Catrin Stevens, yr awdures, yn adrodd straeon ac yn cynnal cwis am gampau a chwaraeon yng Nghymru gyda disgyblion blwyddyn 6 Ysgol Dewi Sant, Llanelli. Roedd cynrychiolwyr o APADGOS, CBAC a Chyngor Llyfrau Cymru yn bresennol yn y lansiad, a chafodd y gwesteion gyfle i fynd ar daith o amgylch y stadiwm i gloi’r digwyddiad.

Cyfres o chwe llyfr darllen hamdden llawn lluniau a hanes difyr yw YrHen Ffordd Gymreig ar gyfer plant 9-13 oed, sy’n sôn am Gymru a’i phobl dros y canrifoedd, ar y themâu Cartrefi, Trosedd a Chosb, Môr a Morwyr, Campau a Chwaraeon, Terfysg a Phrotest a Cymeriadau. Mae fersiwn Saesneg o’r llyfrau hefyd ar gael – cyfres ‘The Old Welsh Way’.

Dywedodd Lynwen Rees Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Addysg:
“Gan ei bod hi’n Flwyddyn Darllen Genedlaethol eleni, roedden ni’n teimlo y byddai’n gyfle da i gynnal lansiad mewn lleoliad cyffrous a phoblogaidd fel Parc y Scarlets. Roedd y plant a fynychodd y digwyddiad o Ysgol Dewi Sant wedi cyffroi’n lân – roedd y lansiad yn un o’r digwyddiadau cyntaf i gael eu cynnal yn y stadiwm newydd, ac yn gyfle iddyn nhw gael gweld y lleoliad cyn i lawer o’r cyhoedd ei weld, gan na fydd gêm gynta’r Scarlets yn cael ei chwarae yno tan yr 28ain o Dachwedd.”

“Roedd yn gyfle gwych i CAA gael arddangos eu hamrywiol gyhoeddiadau, a thynnu sylw at lyfrau darllen difyr ‘Yr Hen Ffordd Gymreig’ yn arbennig.”

Bu eitemau ar y lansiad ar raglen Wedi 7 (S4C), Good Morning Wales (BBC Radio Wales) a’r Post Cyntaf (BBC Radio Cymru), yn ogystal ag erthyglau mewn papurau newydd megis ‘Y Cymro’, ‘Cambiran News’, ‘Western Mail’ a’r ‘South Wales Evening Post’.

Mae CAA wedi cynhyrchu deunyddiau o ansawdd uchel yn y Gymraeg ac yn Saesneg ers 26 mlynedd bellach – yn llyfrau, CDau, CD-ROMau rhyngweithiol, pecynnau aml-gyfrwng a gweithgareddau ar-lein – ac fe gyhoeddwyd oddeutu 1,800 o gyhoeddiadau ers ei sefydlu ym 1982.