Lansio partneriaeth gyfryngol

28 Hydref 2008

Mae'r Brifysgol ac Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu'r Brifysgol wedi arwyddo partneriaeth strategol o bwys gyda un o brif gwmnioedd teledu annibynnol Cymru, Boomerang+.

Yr Hen Ffordd Gymreig

18 Tachwedd 2008

Roedd un o arwyr rygbi Cymru, Phil Bennett, ym Mharc y Scarlets ddydd Mawrth 18 Tachwedd i lansio'r gyfres ddiweddaraf o lyfrau i'w cyhoeddi gan Ganolfan Astudiaethau Addysg y Brifysgol.

Gwobr fwyd

07 Tachwedd 2008

Mae cig oen a gynhyrchwyd ar ffermydd y Brifysgl ac sydd yn cael ei weini ym mwyty TaMed Da wedi ennill gwobr o bwys yng Ngwobrau Gwir Flas Bwyd a Diod Cymru 2008/9.

Plant mewn Angen

14 Tachwedd 2008

Cafodd y myfyrwyr yr ail fuddugoliaeth o'r bron yn y gem beldroed flynyddol rhwng y myfyrwyr a'r staff yn IBERS a drefnwyd i godi arian arian at Plant mewn Angen.

Fluxus 1968-2008

27 Tachwedd 2008

Ddydd Sadwrn 29 Tachwedd yn Theatr y Castell bydd artistiaid o Aberystwyth yn perfformio eu dehongliad nhw o ddigwyddiad Fluxus gafodd ei drefnu gan yr artist Brian Lane yma yn Aberystwyth yn mis Tachwedd 1968.

Datblygiad Datganoli

20 Tachwedd 2008

Bydd arweinydd Cylchdaith Cymru a Chaer a'r cyn Gwnsler Cyffredinol, Winston Roddick CF, yn traddodi darlith flynyddol y Ganolfan Materion Cyfreithiol Cymreig ar nos Wener 28 Tachwedd.

Masnach Rydd UE-India

20 Tachwedd 2008

Mae Dr Sangeeta Khorana o'r Ysgol Reolaeth a Busnes wedi bod yn cyflywno tystiolaeth fel rhan o'r trafodaethau ar Gytundeb Masnach Rhydd rhwng yr Undeb Ewropeaidd ac India.

Ffair Astudiaethau Uwchraddedig

28 Tachwedd 2008

Cynhelir 9ed Ffair Astudiaethau Uwchraddedig Prifysgol Aberystwyth rhwng 3 a 7 yr hwyr, ddydd Mercher y 3ydd o Ragfyr yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.