Plant mewn Angen

Yr Athro Wayne Powell yn cyflwyno'r cwpan i gapten tim y myfyrwyr Sam Wright

Yr Athro Wayne Powell yn cyflwyno'r cwpan i gapten tim y myfyrwyr Sam Wright

14 Tachwedd 2008

Bu staff a myfyrwyr o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Chefn Gwlad Prifysgol Aberystwyth yn cymryd rhan yn y gem bel droed flynyddol sydd yn cael ei threfnu i godi arian at Plant Mewn Angen. Cafodd y gem ei chynnal yn y ganolfan geffylau dan dô eleni gyda'r chwaraewyr yn gwisgo welintons. I ychwanegu at yr hwyl clymwyd coesau'r rhai oedd yn sgorio at eu gilydd.

Enillwyd y ‘Cwpan Welly’ am yr ail flwyddyn yn olynol gan y myfyrwyr, ieuenctid yn drech na phrofiad! Dywedodd yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr y Sefydliad ac un o’r sgorwyr yn ystod y gem; “Roedd y cyfan yn llawer o hwyl ac yn dangos y berthynas weithio agos sydd yn bodoli rhwng y staff a’r myfyrwyr. Mae’r Brifysgol yn falch o allu cefnogi achos mor deilwng a Plant Mewn Angen.” Codwyd cyfanswm o £125 hyd yn hyn.