Hanes a Hanes Cymru

Dr Tim Brain OBE

Dr Tim Brain OBE

24 Hydref 2008

‘The Independence of the Office of the Constable: A Necessary Myth?'

Ddydd Mercher 12 Tachwedd 2008, bydd Adran Hanes a Hanes Cymru Prifysgol Aberystwyth yn cynnal darlith a draddodir gan y Dr Tim Brain OBE, Prif Gwnstabl Heddlu Swydd Gaerloyw.

Cynhelir y ddarlith yn Narlithfa A12 yn Adeilad Hugh Owen ar gampws Penglais y Brifysgol, yn dechrau am 6 yr hwyr.

‘The Independence of the Office of the Constable: A Necessary Myth?'

Yn ei ddarlith bydd y Dr Brain yn olrhain hanes swydd y cwnstabl o’i gwreiddiau, gan edrych ar sut mae’r swydd wedi datblygu. Bydd yn edrych ar rôl y cwnstabl yn ei chyd-destun hanesyddol ac yn y byd sydd ohoni, ac ystyried beth yw goblygiadau ‘annibyniaeth’ i bolisi cyfoes y llywodraeth a phlismona.

Mae’r Dr Timothy Brain OBE QPM BA PhD FRSA yn Brif Gwnstabl Swydd Gaerloyw ers 2001 a chyn hynny bu’n Ddirprwy Brif Gwnstabl ers 1998. Cyn ymuno â’r gwasanaeth bu’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, o 1972 i 1978, lle yr astudiodd hanes ac ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yn 1975 a Doethuriaeth yn 1983. 

Ymunodd â Heddlu Avon a Gwlad yr Haf yn 1978 drwy’r cynllun i raddedigion, yn codi o gwnstabl i brif arolygydd cyn ymuno â Heddlu Hampshire pan gafodd ei ddyrchafu i Uwch-arolygydd.  

Daeth yn Brif Gwnstabl Cynorthwyol yn Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr yn 1994, lle y bu’n gyfrifol am Faterion Cymunedol ac wedyn am Weithrediadau. Ymhlith ei ddyletswyddau penodol ef roedd plismona cystadleuaeth Euro ’96, gwaith gwrthderfysgol, a’r aildrefnu sylweddol a fu yn yr heddlu hwnnw yn 1997.  Yn 1998 cafodd ddyrchafiad i Ddirprwy Brif Gwnstabl Swydd Gaerloyw, lle y bu’n gyfrifol, ymhlith pethau eraill, am gysylltiadau cymunedol a chynllunio strategol.

Ers dod yn Brif Gwnstabl Swydd Gaerloyw mae wedi cychwyn ar raglen sylweddol o newidiadau strategol, yn troi’r Heddlu hwnnw yn sefydliad i arwain y maes yn y 21 ganrif. Cydnabyddir bod cynlluniau strategaethol yr Heddlu hwnnw, sef Vision5 a Vision 2010, yn esiamplau disglair o reoli strategol.

Mae ei gyflawniadau yn cynnwys creu’r Ganolfan Rheoli Argyfwng Triphlyg (Heddlu, Tân ac Ambiwlans) gyntaf, creu unedau archwilio arbenigol newydd i ymladd â throseddu difrifol a threfnedig, a llwyddo i gael dyfarniad Buddsoddwyr mewn Pobl, un o’r ychydig o Heddluoedd sydd wedi cyrraedd y nod hwnnw. Ym mis Ionawr 2006 cwblhaodd ei Heddlu brosiect pedair blynedd i godi Pencadlys newydd i’r safonau uchaf diweddaraf. Fe’i codwyd drwy’r Fenter Gyllid Gyhoeddus, a’i gwblhau yn brydlon ac o fewn y gyllideb.   

Mae’n aelod o Gymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu (ACPO) ers 1994 ac erbyn hyn mae ymhlith y Prif Gwnstabliaid hiraf eu gwasanaeth ym Mhrydain. Mae’n siarad ar ran y Gymdeithas ar buteindra a materion rhyw cysylltiedig, yn chwarae rhan flaenllaw wrth lunio polisi’r Llywodraeth sy’n ymdrin â phuteindra plant yn 1998 ac yn llunio strategaeth ACPO ar buteindra yn 2004. Mae’n cadeirio Man Busnes Cyllid ACPO, gyda chyfrifoldeb cenedlaethol am faterion ariannol. Ef hefyd yw Cadeirydd Cymdeithas Staff Prif Swyddogion yr Heddlu. Arweiniodd yr ymateb i argyfwng y llifogydd helaeth yn Swydd Gaerloyw yn 2007.

Ysgrifennodd yn helaeth am amrywiaeth o faterion yn ymwneud â’r heddlu ac mae’n siarad yn aml mewn cynadleddau am ystod eang o bynciau sy’n ymwneud â’r heddlu gan gynnwys arweinyddiaeth strategol, rheoli perfformiad a phlismona puteindra. Bu’n ddarllenydd beirniadol ar gyfer sawl prosiect cyhoeddi.

Mae’n aelod o fyrddau ymgynghori Prifysgol Aberystwyth i Adran Hanes a Hanes Cymru i’r Ysgol Astudiaethau Rheolaeth a Busnes. Fe’i penodwyd yn Athro Ymweld Astudiaethau Heddlu yng Nghyfadran y Celfyddydau ac Astudiaethau’r Ddynolryw ym Mhrifysgol South Bank Llundain yn 2006 a daeth yn Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2007.

Rhoddwyd Medal Heddlu’r Frenhines iddo yn Anrhydeddau Pen-blwydd 2002. Fe’i hetholwyd yn Gymrawd i Gymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, y Gwneuthurion a Masnach (FRSA) yn 2004.   Fe’i hetholwyd yn Gydymaith i’r Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CCMI) yn 2007. Yn Anrhydeddau Pen-blwydd Mehefin 2008 daeth y Dr Brain yn Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) am ei wasanaethau i’r Heddlu a’r gymuned yn Swydd Gaerloyw.

Ymhlith ei ddiddordebau mae hanes, cerddoriaeth, rygbi’r undeb, a chefnogi tîm criced Swydd Gaerloyw. Mae’n gadeirydd Rygbi Heddlu Prydain a Cherddorfa Symffoni Heddlu Prydain, ac ef oedd yn gyfrifol am arwain taith y Gerddorfa honno yn yr India yn Chwefror 2008.  Mae’r Dr Brain yn briod ac mae ganddo un mab.