Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr 2008

Yr Hen Goleg

Yr Hen Goleg

12 Medi 2008

Dydd Gwener 12 Medi 2008
Canlyniadau Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr 2008

Daeth Aberystwyth ar y brig unwaith eto yng nghanlyniadau arolwg cenedlaethol i fyfyrwyr amser llawn. Barn myfyrwyr yw bod Aberystwyth yn Rhif 1 yng Nghymru am Fodlonrwydd Myfyrwyr. Cymerodd dros 12000 o fyfyrwyr yng Nghymru, a 207000 o fyfyrwyr y DU, ran yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2008 ac un yn unig o'r canlyniadau yw hwn.

Cafodd Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr ei gynnal yn flynyddol ers 2005. Caiff ei gynnal ymhlith israddedigion y DU, ar eu blwyddyn olaf ar y cyfan, a'r diben yw cynorthwyo myfyrwyr sydd â’u bryd ar fynd ymlaen i Addysg Uwch, i ddod i benderfyniad ar sail gwybodaeth ynglŷn â beth i astudio a ble.

Mae bodlonrwydd cyffredinol myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn dal yn uchel, ar raddfa 90%, yr un peth â’r llynedd, ond barn myfyrwyr yw bod Prifysgol Aberystwyth wedi gwella ers y llynedd yn y meysydd canlynol: -

* Y ffordd y dysgir fy nghwrs,
* Cymorth academaidd,
* Adnoddau Dysgu, a
* Bodlonrwydd cyffredinol

Yn ogystal â safle uchel cyffredinol Aberystwyth fel prifysgol, cafodd llawer o’r pynciau a ddysgir ym Mhrifysgol Aberystwyth i fyfyrwyr gradd gyntaf, amser llawn y marciau uchaf yn y DU.

UCHAF – cafodd Gwyddor Chwaraeon yn Aberystwyth y canlyniadau uchaf am Fodlonrwydd Cyffredinol, o’i gymharu â phob sefydliad arall yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2008, gan wneud yn sylweddol well na phrifysgolion eraill y DU sy’n cynnig Gwyddor Chwaraeon, er enghraifft Exeter, Bangor, Birmingham ac Abertawe.

UCHAF – daeth Amaethyddiaeth yn Aberystwyth yn gydradd uchaf gyda Choleg Prifysgol Harper Adams, yn sylweddol uwch nag Amaethyddiaeth mewn prifysgolion eraill tebyg i Brifysgol Newcastle a’r Coleg Amaethyddol Brenhinol.

UCHAF – daeth Daearyddiaeth Ffisegol a Gwyddor yr Amgylchedd yn uchaf am Fodlonrwydd Cyffredinol, gan guro’n hawdd brifysgolion eraill y DU lle dysgir y pynciau hyn, er enghraifft Caerdydd, Abertawe, Bangor a hyd yn oed Rhydychen.

UCHAF – daeth Daearyddiaeth Ddynol a Daearyddiaeth Gymdeithasol yn gydradd uchaf yn y DU gyda Phrifysgol Exeter am fodlonrwydd myfyrwyr, tipyn uwch na Phrifysgol Caergrawnt.

UCHAF – cafodd Swoleg yn Aberystwyth hefyd un o’r safleoedd uchaf yn y DU am fodlonrwydd myfyrwyr, gan rannu’r safle uchaf gyda’r pwnc yn Glasgow a Leeds, uwchben Caerdydd, Bryste a Durham.

Y pynciau eraill yn Aberystwyth a wnaeth yn dda iawn am fodlonrwydd myfyrwyr o’i gymharu â phrifysgolion eraill yn y DU yw: -

* Celfyddyd Gain, 
* Cyfrifiadureg, 
* Bioleg, 
* Gwleidyddiaeth, 
* Drama, 
* Sinemateg a Ffotograffiaeth, 
* Economeg, 
* Astudiaethau Gwybodaeth, 
* Hanes, 
* Saesneg, 
* Y Gyfraith ac 
* Astudiaethau Busnes

Meddai’r Athro Aled Jones, Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth:
"Rydyn ni wrth ein bodd o weld fod ein myfyrwyr eleni eto wedi cydnabod amgylchedd diogel, hardd a chroesawus Aberystwyth, bri ac ymroddiad ei staff, y cyrsiau academaidd cyffrous a’r ysbryd cymunedol rhyfeddol o gyfeillgar sy’n gwneud astudio yn Aberyswtyth yn brofiad mor gadarnhaol a chofiadwy i fyfyrwyr o bob cwr o’r byd.

"Rydyn ni wedi bod yn agos i’r brig ymhob arolwg myfyrwyr a wnaed hyd yn hyn, ond mae gwneud cystal â hyn eto, gan ddod yn uchaf yng Nghymru, yn destun balchder mawr i ni i gyd. Wedi dweud hynny, ein nod yw dal ati i wella pob agwedd o brofiad ein myfyrwyr. Mae’r myfyrwyr sydd yma, a’r rhai a ddaw i ymuno â nhw yn y dyfodol, yn gwybod nawr eu bod yn mwynhau’r amgylchedd gorau i fyfyrwyr y gall y DU ei gynnig," ychwanegodd.