Llwyddiant recriwtio

Campws Penglais

Campws Penglais

16 Medi 2008

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn dderbyn y nifer uchaf o israddedigion yn ei hanes pan fydd y Glas Fyfyrwyr yn cyrraedd ar gyfer dechrau'r flwyddyn academaidd newydd ar benwythnos yr 20fed a'r 21ain o Fedi.

Mae nifer yr israddedigion sydd wedi derbyn lle ym Mhrifysgol Aberystwyth eleni wedi cynyddu 18% o’i gymharu â’r nifer a dderbyniodd le ym Mis Medi 2007. Mae hyn yn cymharu â chynnydd o 2.7%* ar draws Cymru a 8.8%* ar draws y Deyrnas Gyfunol (*Data UCAS Dydd Mercher 10 Medi 2008).  

Ymysg y meysydd academaidd sydd wedi bod yn arbennig o lwyddiannus eleni y mae Mathemateg sydd wedi gweld cynnydd o 50%, Ffiseg +45%, Cyfrifiadureg +36%, Saesneg +27%, Rheolaeth a Busnes +24%, Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Gwyddorau Gwledig a Biolegol sydd wedi profi cynnydd o 21% yr un, y Gyfraith +18.75 a Gwleidyddiaeth Rhyngwladol sydd wedi profi cynnydd o +15.5%. 

Ddydd Gwener 12 Medi cyhoeddodd y Brifysgol ei bod wedi mynd tu hwnt i’r targed recriwtio am y flwyddyn ac nad yw bellach wedi ei chynnwys ar restri UCAS. 

Dywedodd Dr Hywel Davies, Cyfarwyddwr Denu a Derbyn:
“Mae llwyddiant cyson Aberystwyth o ran boddhad myfyrwyr a brand newydd y sefydliad wedi dal dychymyg ein darpar fyfyrwyr. Mae hon wedi bod yn flwyddyn recriwtio eithriadol ac yn llawer mwy llwyddiannus na’r disgwyl ac yn gosod record am y nifer mwyaf o israddedigion i’w derbyn gan Brifysgol Aberystwyth.”     

Mae’r Brifysgol yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sydd eisiau dod i astudio i Aberystwyth ym Medi 2009 ac eisoes mae paratoadau  ar y gweill ar gyfer Diwrnod Agored llwyddiannus arall ar ddydd Sadwrn y 25ain o Hydref.  Ceir manylion llawn am drefniadau y Diwrnod Agored ar y wefan http://www.aber.ac.uk/cy/open-days/.