Canolfan Sgiliau

Aelodau o dim Canolfan Sgiliau Aber-Bangor.

Aelodau o dim Canolfan Sgiliau Aber-Bangor.

07 Rhagfyr 2009

Yn dilyn llwyddiant lansio Canolfan Sgiliau Aber-Bangor ym Mhrifysgolion Aberystwyth a Bangor mae staff y Ganolfan yn awyddus i siarad gyda chi!

Yn fwy penodol, mae'r Ganolfan eisiau clywed gan fusnesau lleol sydd yn fodlon rhannu eu hanghenion a'u dyheadau o ran datblygu hyfforddiant a sgiliau. Nid israddedigion 18 oed llawn amser yw unig bwrpas addysg prifysgol, felly os ydych am ein cynorthwyo i addasu’r cyfleoedd hyfforddi Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) rydym yn eu cynnig, cysylltwch â ni.

Yn ogystal rydym yn chwilio am adrannau academaidd sydd â diddordeb mewn ehangu’r cyfleoedd DPP y maent yn eu cynnig neu’r rhai sydd am ddatblygu eu cyrsiau DPP cyntaf. Gall staff y Ganolfan Sgiliau gynorthwyo adrannau academaidd i ddatblygu ac arbrofi gyda darpariaeth DPP newydd, a byddent yn hapus iawn i gyfarfod gyda chi i drafod sut y gallent fod o gymorth yn hyn o beth.

Menter ar y cyd rhwng prifysgolion Aberystwyth a Bangor sydd wedi ei chyllido gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yw Canolfan Sgiliau Aber-Bangor. Bydd yn gweithio gyda Chynghorau Sgiliau Sector, staff y Brifysgol a busnesau lleol i ddatblygu cyrsiau hyfforddi DPP sydd wedi eu teilwra i ateb gofynion cyflogwyr unigol yn y sector gyhoeddus a phreifat yng nghanolbarth a gogledd Cymru.

Bydd Canolfan Sgiliau Aber-Bangor yn siop un stop rithwyr fydd yn cynnig pwynt cyswllt  canolog ar gyfer darpariaeth hyfforddi ar draws y ddau sefydliad.

Os ych chi am fod yn rhan o’r cynllun hwn cysylltwch â staff y Ganolfan Sgiliau, unai yn Gwasanaethau Cynghori a Masnacheiddio Prifysgol Aberystwyth ccservices@aber.ac.uk neu ym Mangor ar absc@bangor.ac.uk.