Beicio-i'r-Gwaith

Dr Pip Nicholas sydd newydd brynu beic trydan o dan y cynllun Beicio-i'r-Gwaith.

Dr Pip Nicholas sydd newydd brynu beic trydan o dan y cynllun Beicio-i'r-Gwaith.

12 Mehefin 2009

Dydd Gwener 11 Mehefin 2009

Prifysgol Aberystwyth yn lansio cynllun Beicio-i'r-Gwaith

I nodi Wythnos y Beic 2009 (13 – 21 Mehefin), mae Prifysgol Aberystwyth yn lansio cynllun newydd Beicio-i'r-Gwaith sydd yn galluogi aelodau staff i wneud arbedion sylweddol ar bris prynu beic newydd.

Datblygwyd y cynllun Beicio-i’r-Gwaith, sydd yn cael ei gyflwyno fel rhan o raglen Cyclescheme sydd yn cael ei chefnogi gan y Llywodraeth, er mwyn cymell mwy o aelodau staff y Brifysgol i feicio i’r gwaith ac i hyrwyddo ffitrwydd cyffredinol.

Mae’r cynllun yn rhan bwysig o Gynllun Teithio’r Brifysgol ac yn ychwanegiad at y tocyn teithio AHA hynod lwyddiannus a gyflwynwyd gan y Brifysgol er mwyn lleihau tagfeydd traffig yn ardal Aberystwyth drwy gymell aelodau staff i ddefnyddio bysus lleol yn hytrach na’u ceir.

Mae’r cynllun yn caniatáu aelodau staff i brydlesu beic am gyfnod o 12 mis drwy’r Brifysgol  (uchafswm pris beic a offer diogelwch yw £1,500) ac yna i’w brynu ar ddiwedd cyfnod y les.

Y brif fantais yw fod modd arbed hyd at £450 (gall amrywio yn ôl lefelau trethiant personol) ar bris prynu gwreiddiol y beic gan fod y taliadau yn cael eu gwneud cyn tynnu treth incwm ac yswiriant cenedlaethol.

Dywedodd Dr John Harries, Dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol, “Mae cyflwyno’r cynllun Beicio-i’r-Gwaith hwn yn ddatblygiad pwysig i’r Brifysgol. Rydym wedi bod mewn trafodaethau agos gyda Chyngor Sir Ceredigion ar ddatblygu ein Cynllun Teithio gyda’r nod o ddarparu manteision amgylcheddol a iechyd, ac mae’r cynllun Beicio-i’r-Gwaith yn un o nifer cynyddol o ddatblygiadau yr ydym yn eu cyflwyno er budd staff a myfyrwyr.” 

Bu wyth aelod staff yn rhan o gynllun peilot ac yn gweithio gyda Adran Adnoddau Dynol y Brifysgol er mwyn sicrhau fod yr ochr weinyddol yn rhedeg yn llyfn. Bellach mae’r gwaith hwnnw wedi ei gwblhau ac mae’r cynllun yn cael ei gynnig i holl staff y Brifysgol.

Roedd Dr Pip Nicholas, Ymchwilydd a Darlithydd Cysylltiol yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, yn rhan o’r peilot. Yn ddiweddar derbyniodd Pip feic Urban Mover UM36 sydd yn cynnwys batri trydan a goleuadau, ac mae’n ei ddefnyddio i deithio o’i chartref i gampws Llanbadarn bob dydd.

“Prynais y beic gan ym mod yn awyddus i ddod yn ffit ac eisiau defnyddio llai o’r car. Mae’r daith o’r tŷ i’r gwaith, 10 milltir nol a mlaen, yn cymryd 20 munud un ffordd ac mae’r batri yn hwb gwerthfawr iawn wrth ddringo’r rhiwiau.”

“Buaswn yn argymell beic sydd â batri i bobl sydd ddim yn hoff o ddringo rhiwiau, er eich bod yn cael hen ddigon o ymarfer corff! Mae’r beic yn gallu teithio hyd at 18 milltir cyn bod angen ail lenwi’r batri, tasg sydd yn cymryd tua 4 awr ac yn costio rhwng 6 a 8 ceiniog ar y tro. Rwy’n gobeithio arbed tua £40 y mis ar betrol,” ychwanegodd.

Mae Darren Hathaway yn gweithio yng Nghanolfan Chwaraeon y Brifysgol. Prynodd Darren feic mynydd ac mae’n disgwyl arbed £450 yn sgil y cynllun.

“Rwy’n feiciwr brwd iawn. Er taw 2 filltir yn unig yw fy nhaith o’r tŷ i’r gwaith, mae’r ffaith fy mod yn gadael y car adre yn golygu nad wyf yn mynd a un o’r llefydd parcio pryn sydd gyda ni ger Canolfan Chwaraeon y Brifysgol. Mae hefyd yn ffordd wych o gadw’n heini.”

“Mae’r cynllun yn boblogaidd iawn ymysg fy nghydweithwyr yma yn y Ganolfan Chwaraeon. Mae tri ohonom eisoes wedi prynu beic fel rhan o’r cynllun ac mae dau arall yn ystyried gwneud hynny. O safbwynt personol ni fuaswn wedi prynu’r beic hebddo,” ychwanegodd. 

Cadw beic yn ddiogel
Gall aelodau staff sydd ddim yn awyddus i adael eu beiciau newydd sbon allan yn y glaw neu am eu cadw o olwg llygaid barus, ddefnyddio un o’r cistiau beic newydd sydd tu allan i Ganolfan Chwaraeon y Brifysgol. Mae pob cist yn ddigon mawr i gadw beic, bagiau, helmed ac ati, y cyfan dan glo ac yn ddi-dâl. Unwaith fod y beic wedi ei gloi gall aelodau staff fwynhau cawod yn rhad ac am ddim yn y Ganolfan Chwaraeon cyn mynd ymlaen i weithio.

Yn ogystal yn ddiweddar gosododd y Brifysgol rac gysgodol i feiciau y tu allan i Adeilad Cledwyn a deuddeng rac i ddau feic mewn gwahanol leoliadau ar draws campws Penglais. 

Hurio beic am ddim
Mae’r Brifysgol hefyd yn cynnig dau feic i’w hurio i staff ar gampws Penglais, a hynny yn ddi-dâl. Cafodd y ddau feic hybrid ei prynu gyda chyllid o’r Gist Gymunedol ac mae’nt ar gael am gyfnodau byr ynghyd â helmed, siaced hawdd ei gweld a chlo.

Mae manylion llawn am y cynllun Beicio-i’r-Gwaith ar gael ar wefan Adnoddau Dynol y Brifysgol http://www.aber.ac.uk/cy/hr/benefits/cyclescheme/ a http://www.cyclescheme.co.uk/4e1d37.

Mae manylion llawn am Wythnos y Beic 2009 ar gael ar y wefan http://www.bikeweek.org.uk/.