DIVERSE 2009

Diverse 2009

Diverse 2009

24 Mehefin 2009

Y defnydd o YouTube, podlediadau, technoleg recordio darlithoedd a fideo-gynadledda mewn addysg uwch fydd canolbwynt sylw cynhadledd ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth yr wythnos hon (24ain a'r 26ain Mehefin).

DIVERSE 2009 (Developing Innovative Visual Educational Resources for Students Everywhere) yw'r gynhadledd flynyddol ddiweddaraf ar gyfer academyddion, athrawon, technolegwyr a myfyrwyr ar gyfer trafod y gwahanol ffyrdd o ddefnyddio’r cyfryngau gweledol mewn addysg.

Mae disgwyl i hyd at 180 o gynadleddwyr o Ewrop, gogledd a de America ac Awstralia i fynychu’r gynhadledd yn Aberystwyth. Yn y gorffennol cafodd ei chynnal yn Haarlem (Yr Iseldiroedd), Lillehammer, Glasgow, Nashville, Amsterdam, Derby a Banff yng Nghanada. Cynhelir DIVERSE 2010 yn Portland, Maine, UDA.

John Morgan a Janice de Haaff o Ganolfan Iaith a Dysgu Prifysgol Aberystwyth yw trefnwyr DIVERSE 2009.

Dywedodd John Morgan “Ers mwy na dau ddegawd mae Prifysgol Aberystwyth wedi arloesi yn y defnydd o dechnoleg cyfathrebu a fideo gynadledda ar gyfer dysgu. Felly mae’n addas iawn fod sefydliad rhyngwladol fel DIVERSE, sydd yn ymroddedig i hyrwyddo defnydd o’r cyfryngau gweledol mewn addysg, wedi dewis Aberystwyth ar gyfer ei cynhadledd flynyddol.”

Dywedodd Cadeirydd DIVERSE, Pieter van Parreeren o INHolland University of Applied Sciences, “Mae DIVERSE yn gymuned fyw ac yn edrych ymlaen yn fawr at cael croesawu aelodau a chynadleddwyr i Gymru ac i Aberystwyth. Nod y gynhadledd yw cynnig fforwm fywiog ar gyfer trafod a chyfnewid syniadau a phrofiadau fydd yn ysbrydoli pobl i wthio’r ffiniau o safbwynt y defnydd o dechnoleg weledol er lles pawb sydd yn ymwneud ag addysg, lle bynnag y maent yn y byd.” 

Cadarnhawyd dau sydd yn flaenllaw yn y maes fel prif siaradwyr ar gyfer DIVERSE 2009. 

Mae Obadiah Greenberg yn aelod o dîm partneriaethau strategol gyda YouTube lle mae’n cynorthwyo ysgolion i wneud defnydd effeithiol o’r cyfryngau newydd ar gyfer dysgu ac addysgu, cysylltiadau cyhoeddus a chysylltiadau cymunedol. Bu’n gyfrifol am roi Prifysgol  California Berkeley ar flaen y gad y mudiad cynnwys agored drwy drefnu fod cannoedd o gyrsiau llawn a digwyddiadau ar gael ar y we yn rhad, ac yna yn 2006 ymunodd â Google er mwyn cynorthwyo partneriaid addysg uwch eraill i gyfathrebu drwy YouTube. 

Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol LearnTle Pty Ltd yw Carol Skyring ac mae wedi bod yn ymwneud gyda dylunio a defnydd effeithiol o dechnoleg ddysgu ar gyfer addysg a busnes ers 1986. Mae’n gweithio gyda phrifysgolion, colegau, ysgolion, adrannau llywodraeth, cwmnïoedd mawr a bach ym mhob rhan o Awstralia, Seland Newydd, UDA ac Ewrop.

Sefydlwyd DIVERSE fel Ymddiriedolaeth yn yr Iseldiroedd yn dilyn cynhadledd Haarlem yn 2008. Daeth i fodolaeth yn y lle cyntaf fel prosiect Rhaglen Technoleg Dysgu ac Addysgu a gyllidwyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr rhwng pedwar sefydliad, Bolton Institute, Prifysgol Derby, Prifysgol Wolverhampton a Sefydliad Addysg Uwch Cheltenham a Gloucester.