Gwahanwyd gan gân

Titw mawr: Llun gan Maria Gill

Titw mawr: Llun gan Maria Gill

03 Mehefin 2009

Mae titwod mawrion mewn trefi’n ymateb yn gryfach i ganeuon eu cyd-drigolion trefol nag ydynt i’w cefndryd o’r wlad ac mae agwedd titwod mawrion o’r wlad yr un mor wahaniaethol.

Mae arolwg o aderyn cyffredin yr ardd, y titw mawr, a gynhaliwyd ar draws y Deyrnas Unedig gan Dr Rupert Marshall o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi dangos bod y traw lleiaf y maent yn ei greu wrth ganu ar gyfartaledd yn uwch mewn ardaloedd trefol swnllyd nag yw mewn llefydd tawelach, mwy gwledig ychydig gilometrau i ffwrdd.

Mae’r titwod mawrion gwryw’n canu caneuon er mwyn amddiffyn eu tiriogaeth a denu cymar. Mewn mannau trefol, gall caneuon gael eu cuddio gan synau sy’n cael eu creu gan ddyn. Fodd bynnag, er bod adar trefol wedi ymateb drwy godi’u traw fel bod modd eu clywed, mae’n ymddangos nad yw eu cân newydd yn creu argraff ar eu brodyr yn y wlad. Yn ogystal â hynny, gallai canu ar y traw anghywir achosi problemau iddynt pan fyddant yn ceisio creu cartref mewn lle newydd.

Dywed Dr Rupert Marshall, arweinydd y prosiect, "mae pobl yn siarad yn uwch gan ddefnyddio traw uwch mewn mannau swnllyd fel tafarndai a bariau ond maent yn dal i adnabod lleisiau’u ffrindiau pan fyddant yn mynd allan. Mae’n ymddangos bod titwod mawrion yn dysgu’r nodau uchel oddi wrth eu cymdogion ond nid ydynt yn ymateb gyn gryfed i synau gwledig is, hyd yn oed pan fo’n dawel".

Awgryma’r fyfyrwraig PhD Emily Mockford mai’r "cam nesaf yw canfod beth yw barn yr adar benywaidd ynglŷn â’r gwahanol ganeuon hyn – a fyddant yn awyddus i baru ag aderyn sy’n canu’n rhy uchel neu’n rhy isel?"

Mae'n bosib y bydd newid caneuon rhai adar clochdar yn eu gadael â'u pen yn eu plu.

Cyhoeddir yr ymchwil yn  Nhrafodion Cymdeithas Frenhinol B gan y Gymdeithas Frenhinol, academi wyddoniaeth genedlaethol y Deyrnas Unedig.