Safon newydd mewn cymorth i fyfyrwyr

Raquel Gonzalez o IMAPS, Belinda Marking o'r Ysgol Gelf, Dr Rhys Thatcher, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu yn Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, a Martine Smith o IBERS, pedward o'r deg aelod staff sydd yn gweithio tuag at y 'Dyfarniad Cymorth i Fyfyrwyr'.

Raquel Gonzalez o IMAPS, Belinda Marking o'r Ysgol Gelf, Dr Rhys Thatcher, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu yn Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, a Martine Smith o IBERS, pedward o'r deg aelod staff sydd yn gweithio tuag at y 'Dyfarniad Cymorth i Fyfyrwyr'.

02 Mawrth 2009

Mae Aberystwyth, y brifysgol sydd yn cynnig y profiad gorau i fyfyrwyr yng Nghymru ac sydd yn 8ed yn y Deyrnas Gyfunol (Arolwg Profiadau Myfyrwyr 2009 y Times Higher Education), wedi datblygu rhaglen hyfforddi arloesol achrededig ar gyfer aelodau staff an-academaidd, er mwyn datblygu ymarfer da mewn cynorthwyo myfyrwyr. 

Datblygwyd y rhaglen gan Giles Polglase o Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd y Brifysgol, a Del Harris Cydlynydd Gwyddorau Cymdeithasol yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes.

Dywedodd Giles Polglase; “Cynhaliwyd astudiaeth o draws doriad o fyfyrwyr a nodwyd taw staff an-academaidd megis gweinyddwyr adrannol yw eu pwynt cyswllt cyntaf pan fyddant yn chwilio am gymorth a chyngor. O ganlyniad rydym wedi datblygu'r “Dyfarniad Cymorth i Fyfyrwyr”.

“Mae'r rhaglen yn adeiladau ar ymarfer da sydd eisoes yn bodoli ac yn cymell staff i ystyried a datblygu’r ffyrdd y maent yn ymateb i anghenion gwahanol y myfyrwyr. Yn ogystal mae modd  addasu’r rhaglen i ateb galw swyddi penodol.
 
“Meincnodwyd y rhaglen yn erbyn Fframwaith Safonau Proffesiynol Cenedlaethol a gwerthoedd Cymdeithas Datblygu Addysgiadol a Staff (Staff and Educational Development Association - SEDA) a cafodd ei hachredu gan Brifysgol Aberystwyth. Rydym o’r farn taw hon yw rhaglen ffurfiol gyntaf o’i bath yn y Deyrnas Gyfunol a luniwyd ar gyfer staff an-academaidd.”

Cafodd y rhaglen ei datblygu mewn cydweithrediad gyda Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. Dywedodd Caryl Davies, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau i Fyfyrwyr; “Mae cydnabyddiaeth gyffredinol ym Mhrifysgol Aberystwyth fod yr holl staff yn cyfrannu at brofiad myfyrwyr llwyddiannus. Mae’r rhaglen hon yn cydnabod rôl ganolog staff an-academaidd o safbwynt cynorthwyo myfyrwyr ac mae’n cynnig ffordd o ddatblygu eu sgiliau ymhellach.”

Ym mis Mai bydd y dosbarth cyntaf o 10 aelod staff yn cwblhau’r rhaglen, sydd yn cynnwys 30 awr o hyfforddiant dros gyfnod os 15 wythnos. O fis Medi 2009 bydd y cwrs yn rhan barhaol o raglen Datblygu Staff y Brifysgol ac eisoes mae 35 aelod staff wedi rhoi eu henwau i lawr.

Dylai aelodau staff sydd am wybod mwy am y rhaglen gysylltu â Giles Polglase yn y Swyddfa Ddatblygu Staff 01970 62(2386) / gop@aber.ac.uk.