Safon newydd mewn cymorth i fyfyrwyr

02 Mawrth 2009

Aberystwyth yn datblygu rhaglen hyfforddi arloesol newydd er mwyn cynorthwyo staff i gynnig gwell gwasanaeth nag erioed i fyfyrwyr.

Manteision amgylcheddol ffermydd mewn ardaloedd llai ffafriol

04 Mawrth 2009

Dyfarnwyd €226,000 i IBERS fel rhan o gynllun Ewropeaidd gwerth €3m i fesur y manteision amgylcheddol sydd yn deillio o ffermydd mewn ardaloedd llai ffafriol.

Cyfarwyddwr newydd Gwasanaethau Gwybodaeth

23 Mawrth 2009

Penodwyd Ms Rebecca Davies, pennaeth presennol Gwasanaeth Llyfrgell ac Ymholiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cynulliad Cymru, i swydd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gwybodaeth.

Rhestr fer gwobr lenyddol

02 Mawrth 2009

Cyhoeddwyd fod Dr Sarah Prescott, uwch-ddarlithydd yn yr Adran Saesneg, wedi ei chynnwys ar rhestr fer am un o brif wobrau llenyddol Cymru, rhestr sydd yn cynnwys menywod yn unig.

Pencampwyr ymryson cyfriethia

27 Mawrth 2009

Laura-Pauline Adcock (Cwnsler Arweiniol) a Mr Eric Lee (Cwnsler Ieuaf), yw pencampwyr cyntaf Cystadleuaeth Ymryson Cyfreithia Genedlaethol Cymru.

Prifysgolion mwyaf Cymru i gydweithio

01 Mawrth 2009

Aberystwyth yn cynghreirio gyda phrifysgolion Bangor, Caerdydd, Morgannwg ac Abertawe i hybu'r economi gwybodaeth yng Nghymru.

Adnewyddu adeilad Gwyddorau Ffisegol

01 Mawrth 2009

Mae adeilad eiconig y Gwyddorau Ffisegol, a ymddangosodd ar stamp 3 ceiniog yn 1971, yn cael ei adnewyddu yn sgil buddsoddiad gwerth £1.2m.

Ymryson Cyfriethia Genedlaethol Cymru

20 Mawrth 2009

Y Cwnsler Cyffredinol, Carwyn Jones AC, fydd y barnwr yn rownd derfynol Cystadleuaeth Ymryson Cyfriethia Genedlaethol Cymru fydd yn cael ei chynnal yn Aberystwyth ar y 25ain Fawrth.

Ymweliad o Lysgenhadaeth yr Unol Daleithiau

09 Mawrth 2009

Bu Mr James McDonald, Swyddog Materion Cymreig yn Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau, yn cyfarfod gydag uwch swyddogion o IBERS yn ystod ymweliad byr ag Aberystwyth.

Seliau Cymru'n ffenestr i'n gorffennol

18 Mawrth 2009

£490,000 gan yr AHRC ar gyfer astudiaeth o seliau canoloesol Cymreig sydd yn cael ei harwain gan yr Athro Phillipp Schofield o Adran Hanes a Hanes Cymru.

Eisteddle pêl-droed

30 Mawrth 2009

Cafodd yr eisteddle newydd ar gaeau chwarae'r Ficerdy ei hagor yn swyddogol ddydd Sul 29 Mawrth gan Anne a Trefor Thomas er cof am ei mab, Gareth Llywelyn Thomas.