Pencampwyr ymryson cyfriethia

Cynrychiolwyr Aberystwyth, Laura-Pauline Adcock ac Eric Lee, yn ystod rownd derfynol Cystadleuaeth Ymryson Cyfreithia Genedlaethol Cymru.

Cynrychiolwyr Aberystwyth, Laura-Pauline Adcock ac Eric Lee, yn ystod rownd derfynol Cystadleuaeth Ymryson Cyfreithia Genedlaethol Cymru.

27 Mawrth 2009

Dydd Gwener 27 Mawrth 2009
Aberystwyth yn bencampwyr Ymryson Cyfriethia Genedlaethol Cymru

Barnwyd Miss Laura-Pauline Adcock (Cwnsler Arweiniol) a Mr Eric Lee(Cwnsler Ieuaf), myfyrwyr Y Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn bencampwyr cyntaf Cystadleuaeth Ymryson Cyfreithia Genedlaethol Cymru gafodd ei chynnal yn Aberystwyth ddydd Mercher 25 Mawrth.

Sicrhaodd Laura ac Eric eu lle yn y rownd derfynol yn dilyn buddugoliaeth dros Ysgol y Gyfraith Morgannwg yn y rownd gynderfynol, cyn mynd ymlaen i drechu Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe. Y barnwr yn y rownd derfynol oedd Cwnsler Cyffredinol ac Arweinydd y Tŷ, a Gweinidog Busnes a Chyfathrebu y Cynulliad Cenedlaethol, Carwyn Jones AC.

Daeth timoedd o Ysgol y Gyfraith Caerdydd, Ysgol y Gyfraith Prifysgol Morgannwg, Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe ac Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth at ei gilydd i brofi eu gallu i ddadlau yn y gystadleuaeth un diwrnod a noddwyd gan y cyhoeddwr a'r darparwr gwybodaeth cyfreithiol LexisNexis.

Bu ymrysonau cyfreithiol, lle mae dau bâr yn dadlau ffug achos, yn rhan o addysg gyfreithiol ers canrifoedd. Yn y 15ed Ganrif roedd Neuaddau'r Frawdlys (Inns of Court) yn defnyddio ymrysonau cyfreithiol i hyfforddi bargyfreithwyr ifainc am fanylder y grefft. Nid yw ennill yr achos o reidrwydd yn sicrhau buddugoliaeth, ond yn hytrach safon y cyflwyniad a’r dadleuon cyfreithiol. 

Roedd Cystadleuaeth Ymryson Cyfriethia Genedlaethol Cymru yn rhan o Wythnos Ddadlau Cyfreithiol a drefnwyd gan Gymdeithas Ymryson Cyfreithiol Aberystwyth.  Cadeirydd y Gymdeithas yw Christopher McFarland, myfyriwr y Gyfraith sydd ar ei flwyddyn olaf; “Dyma’r tro cyntaf i gystadleuaeth ymryson cyfreithiol ryng-golegol gael ei chynnal yng Nghymru.

“Mae’n ddigwyddiad unigryw ac yn gyfle gwych i feithrin cysylltiadau rhwng prifysgolion Cymru  â byd y gyfraith yng Nghymru. Yn ogystal mae’n gyfle gwerthfawr i fyfyrwyr gystadlu a thrwy hynny yn reswm arall pam y dylai darpar fyfyrwyr astudio a gweithio ym myd y gyfraith yng Nghymru.”

Ar ran y noddwyr LexisNexis dywedodd Caralyn Duignan;
“Trefnwyd y diwrnod yn hynod effeithiol ar roedd y cyfan yn brofiad dymunol iawn. Roedd y barnwyr o’r safon uchaf and rwy’n credu fod pawb ohonom wedi dysgu rhywbeth oddi wrthynt. Roedd Carwyn Jones yn farnwr gwych yn y rownd derfynol ac rwy’n mawr obeithio y gallwn sicrhau ei fod gyda ni unwaith eto’r flwyddyn nesaf.”

Barnwyr y rowndiau rhagbrofol oedd Mr Robert Hanratty o Hanratty & Co Solicitors, Y Drenewydd, Powys, a Mr Andrew Perkins, Bargyfreithiwr a Darlithydd ym Mhrifysgol Abertawe. Dywedodd Mr Perkins; “ Roedd yn bleser bod o gymorth ar ddiwrnod mor wych ac roedd yn braf gweld dadlau cyfreithiol o’r fath safon yng Nghymru – boed hynny i barhau.”

Ddydd Gwener 27 Mawrth bu Mr Rhonson Salim (Cwnsler Arweiniol) a’r Mr Scott Preece (Cwnsler Ieuaf) yn cynrychioli Aberystwyth yn rownd ddiweddaraf Cystadleuaeth Ymryson Cyfriethia Genedlaethol Gwasg Prifysgol Rhydychen & BPP 2009, wedi buddugoliaethau gwych yn erbyn Prifysgol Dinas Birmingham a Phrifysgol Westminster yn y rowndiau blaenorol. Yn anffodus yr ymwelwyr o Brifysgol Nottingham a sicrhaodd ei lle yn y rownd gynderfynol y tro hwn.