Seliau Cymru'n ffenestr i'n gorffennol

Un o'r seliau sydd yn y LLyfrgell Genedlaethol ac sydd yn dyddio o 1199.

Un o'r seliau sydd yn y LLyfrgell Genedlaethol ac sydd yn dyddio o 1199.

18 Mawrth 2009

Gall seliau canoloesol, a ddefnyddid i ddilysu a chau dogfennau, fod yn ffenestr ddiddorol ar y modd yr oedd pobl, trefi, mynachlogydd a chyrff eraill yn dymuno cael eu gweld.

Bydd haneswyr ym Mhrifysgolion Aberystwyth a Bangor yn adolygu mwy na 5,000 o seliau yn ymwneud â Chymru, a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, fel rhan o broject ymchwil newydd. Byddant yn edrych o’r newydd ar y seliau, gan ofyn beth y maent mewn gwirionedd yn eu ddweud wrthym am y bobl a gomisiynodd hwy, gan ddehongli sut roeddent yn eu gweld eu hunain ac am i eraill eu gweld, a’r hyn y gallant ei ddweud wrthym am y gymdeithas a roddodd fod iddynt.

Noddir y project gan grant ymchwil o £490,000 gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC). Ar gyfer y gwaith, mae Prifysgolion Aberystwyth a Bangor yn cyfuno eu harbenigedd. Mae’r project ymchwil hefyd yn cynnwys digideiddio’r casgliad, fel ei fod o fewn cyrraedd mwy hwylus i’r cyhoedd, ac i greu arddangosfa deithiol ar sail y casgliad. Byddant hefyd yn adeiladu ar waith gwych sydd eisoes wedi ei wneud, gan gynnwys gwaith catalogio gan haneswyr Cymreig, ac yn arbennig Dr David Williams.

Ar adeg mai dim ond brenhinoedd neu’r rhai a ddaliai lawer o rym ar y pryd a allai ddisgwyl comisiynu portread neu gael llun mewn llyfr prin, roedd y ddelwedd ar eich sêl yn un ffordd o fynegi’n weledol eich statws mewn cymdeithas.  Er enghraifft, gallai sêl corfforaeth tref ddangos tŵr a waliau castell, a hynny, efallai, am ei bod yn falch o gael ei diffinio’n fwrdeistref.

Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan yr Athro Phillipp Schofield o Adran Hanes a Hanes Cymru, Prifysgol Aberystwyth. “Mae un o’r themâu penodol yr wyf yn edrych ymlaen at eu harchwilio yn y project hwn yn ymwneud â’r cyfnewid beunyddiol o eiddo a’r ddirnadaeth a gawn ynglŷn â’r math hwn o fasnachu yng nghymdeithas y Gymru canoloesol wrth edrych ar seliau, ond gallem ddilyn cymaint o lwybrau eraill, yn cynnwys duwioldeb, mynegiant personol, daliadau gwleidyddol, ac ati,” dywedodd.

“Ychydig yn unig o waith sydd wedi’i wneud ar hyn mewn unrhyw gyd-destun, o gymharu â meysydd eraill, ac mae’r project hwn yn rhoi cyfle gwych inni fod ar flaen y gad wrth astudio’r ffynhonnell ganoloesol bwysig hon. Bydd y project yn cynnwys tîm o arbenigwyr canoloesol o’r radd flaenaf, yn cynnwys Dr Elizabeth New, arbenigwr nodedig yn nefnydd a dehongliad seliau canoloesol, a phenodir ail ymchwilydd ar gyfer y project yn ddiweddarach eleni. Mae hyn oll yn gyffrous dros ben, a bydd yn gyfle inni ddatblygu thema werthfawr iawn yn yr astudiaeth ar seliau a hefyd ar hanes Cymru yn yr oesoedd canol,” ychwanegodd.

“Yn y gorffennol, buwyd yn gwerthfawrogi’r seliau am eu prydferthwch darluniadol. Byddwn yn edrych ar y modd y defnyddid y delweddau er mwyn creu ymdeimlad o hunaniaeth,” eglurodd Sue Johns o Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg Prifysgol Bangor.

“Datblygodd seliau o fod yn rhywbeth neilltuol i haenau uchaf cymdeithas ar ddechrau’r 12fed ganrif yn symbol statws hanfodol erbyn diwedd y 13eg ganrif. Mae’r 12fed ganrif yn gyfnod o drawsnewid o ddiwylliant llafar yn ddiwylliant ysgrifenedig, felly defnyddid seliau’n amlach er mwyn dilysu trafodion tir ysgrifenedig ac yn y blaen. Erbyn diwedd y cyfnod hwn, roedd gan lawer o ffermwyr a fasnachwyr ariannog eu seliau eu hunain ac, yn wir, erbyn tua diwedd yr oesoedd canol, roeddent gan y rhan fwyaf o berchnogion tir, hyd yn oed os oedd eu statws yn eithaf isel,” eglurodd.

“Gellir olrhain newidiadau o ran diwylliant a ffasiwn wrth astudio’r delweddau a geid ar seliau trwy’r cyfnod; mae gwisgoedd y menywod canoloesol yn newid, fel y mae arfwisg y marchogion a welir mewn seliau. Maent yn aml yn darlunio herodraeth neu ddelweddau symbolaidd eraill.

“Un sialens sy’n ein hwynebu ni yw bod llawer o’r seliau wedi’u gwahanu oddi wrth eu dogfennau dros y canrifoedd.  Mae presenoldeb y ddogfen ynghlwm yn rhoi syniadau ynglŷn â chefndir perchennog y sêl, ac felly’n gymorth o ran ei dehongli. Fodd bynnag, hyd yn oed pan fo gennym ddogfennau, mae sawl dirgelwch i’w ddatrys o hyd: Er enghraifft, roedd gan fenyw ganoloesol, Tangwystl, ddelwedd pysgodyn ar ei sêl, ond ni wyddom pam y dewisodd y ddelwedd honno; a oedd ganddi gysylltiadau â physgota neu â gwerthu pysgod, neu unrhyw reswm arall dros ddewis y ddelwedd,” ychwanegodd.Ynglŷn â’r grant, pwysleisiodd Tony Claydon, Cyfarwyddwr y Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar, sy’n hyrwyddo ymchwil gydweithredol rhwng Bangor ac Aberystwyth, ei fod yn dangos yn wirioneddol fuddion ein cydweithrediad ag Aberystwyth ac yn adlewyrchu cryfderau sylweddol y ddwy Brifysgol ym maes hanes a diwylliant yr oesoedd canol.