Genom rhygwellt

Dr Ian Armstead

Dr Ian Armstead

14 Mai 2009

Dyfarnwyd £1.6m i'r Grŵp Geneteg Cnydau, Genomeg a Bridio yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), Prifysgol Aberystwyth, i ddatblygu map ffisegol o genom rhygwellt parhaol.

Cyllidwyd yr ymchwil, sydd yn cael ei arwain gan Dr Ian Armstead, Dr Helen Ougham, Dr Julie King, Dr Lin Huang a'r Athro Ian King, gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) gyda chymorth oddi wrth Germinal Holdings, Syngenta a ViaLactia Biosciences.

Rhygwellt yw’r math o laswellt sy’n cael ei dyfu fwyaf yn y DU ac mae’n gydran bwysig o borfeydd amaethyddol ac o’r glaswelltydd a ddefnyddir mewn lawntydd, parciau a meysydd chwarae. Mae traddodiad hir yn Aberystwyth o fridio rhygwellt, ac o wneud ymchwil arno.

Mae IBERS, y sefydliad ymchwil newydd a grëwyd drwy uno tri sefydliad, sef sefydliadau Prifysgol Aberystwyth ar gyfer y Gwyddorau Biolegol a’r Gwyddorau Gwledig, yn ogystal â Sefydliad Ymchwil Tir Glas a’r Amgylchedd (IGER), a noddwyd gan y BBSRC, yn cynnal y traddodiad hwn drwy gyfuno’r arferion bridio ac ymchwil a sefydlwyd yn IGER â dulliau genomaidd newydd. Mae’r gwaith yn cynnwys datblygu map ffisegol o genom rhygwellt parhaol.

Mae’r gair ‘genom’ yn dynodi’r set gyflawn o ddilyniannau DNA mewn unrhyw rywogaeth benodol o blanhigyn, anifail neu organedd byw arall, esbonia Dr Ian Armstead, Prif Archwilydd y prosiect. “Mae mapio ffisegol yn strategaeth ar gyfer catalogio’r holl ddilyniannau DNA sy’n ffurfio genom, ac wedyn eu rhoi mewn trefn i greu darlun o strwythur y genom hwnnw. Gall ymchwilwyr wedyn ddadansoddi dilyniant DNA rhanbarthau penodol o’r genom – er enghraifft, rhanbarthau y gwyddom eu bod yn bwysig ar gyfer gallu i oddef sychder neu dueddiad i gael clefyd – ac felly i ddarganfod pa enynnau sy’n bresennol o fewn y rhanbarthau hyn.”

“Yn y tymor canolig, mae hefyd yn paratoi’r ffordd ar gyfer dilyniannu’r genom cyfan, a hynny’n arwain at ddatgelu’r set gyfan o enynnau, fel y gwnaethpwyd yn y prosiect genom dynol. Yn y pen draw, y casgliad hwn o enynnau, ynghyd â’r modd y mae’r genynnau’n cael eu rheoli – hynny yw, eu troi ymlaen a’u troi i ffwrdd, yn ôl yr angen – sy’n penderfynu beth yw unrhyw organedd penodol, a beth fydd yr organedd hwnnw yn ei wneud. Yn achos rhygwellt, bydd yr wybodaeth hon yn cyfrannu at ddatblygu glaswelltydd newydd a all helpu i ddatrys problemau’n ymwneud â chynaliadwyedd ac â pherfformiad dan amgylchiadau newid hinsawdd.

“Hefyd, fe fydd yn arwain at ddealltwriaeth well o’r cyffelybiaethau cyfansoddiad, a’r gwahaniaethau, rhwng genomau’r rhywogaethau eraill o laswellt ac ydau sy’n perthyn i rygwellt, gan gynnwys gwenith, ceirch a haidd, sef y cnydau rydym i gyd yn dibynnu arnynt ar gyfer sicrwydd ein cyflenwad bwyd. Mae’r gwaith hwn yn gysylltiedig â gwaith ymchwil cyfredol yn IBERS, wedi ei ariannu gan y BBSRC, sy’n datblygu ac yn trefnu marcwyr molecylaidd seiliedig ar enynnau ar draws holl amrediad glaswelltydd ac ydau pwysig y DU,” ychwanegodd.

Traddodiad
Mae traddodiad hir yn Aberystwyth o waith bridio ac ymchwil ar rygwellt, y gellir ei olrhain nôl i ddechrau’r 20fed ganrif a sefydlu Gorsaf Fridio Planhigion Cymru, a thros y blynyddoedd mae hyn wedi arwain at gynhyrchu llawer o fathau newydd o laswellt pori a hamdden.

Mae llwyddiannau diweddar wedi cynnwys y glaswelltydd pori ‘siwgr uchel’ ‘AberDart’ ac ‘AberMagic’, sy’n cael eu marchnata erbyn hyn o dan y brand ‘Aber’ gan Germinal Holdings, partner masnachol IBERS. Bu’r glaswelltydd hyn o fudd i ffermwyr ac i’r amgylchedd fel ei gilydd, drwy wella effeithlonrwydd trawsnewid protein planhigol yn gig ac yn llaeth.

Ymhlith y glaswelltydd hamdden, mae’r math ‘para’n wyrdd’ ‘AberNile’ wedi dod yn gyfarwydd yn rhith y cymysgedd hadau lawnt ‘So Green’, a defnyddiwyd ‘AberElf’ ac ‘AberImp’ yn helaeth ar gyfer meysydd chwarae.

Mae ymchwil a bridio yn dal i gynhyrchu mathau newydd o laswelltau pori a hamdden sydd o werth nid yn unig o safbwynt masnachol tymor byr, ond hefyd mewn perthynas â phroblemau cynaliadwyedd yn y tymor hwy. Yn y cyd-destun hwn, mae gwella gwytnwch a pherfformiad glaswelltydd mewn amgylchiadau sych, heb lawer o wrtaith, yn nodau allweddol.