Gwobrau Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Derbyniodd Adnoddau Dynol gymeradwyaeth yn 2009.

Derbyniodd Adnoddau Dynol gymeradwyaeth yn 2009.

15 Ebrill 2010

Gwobrau Arweinyddiaeth a Rheolaeth Addysg Uwch 2010 y Times Higher Education

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ei chynnwys ar restr fer mewn dau gategori yng Ngwobrau Arweinyddiaeth a Rheolaeth Addysg Uwch 2010 y Times Higher Education.

Mae Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg y Brifysgol wedi ei chynnwys ar restr fer y categori Tîm Cofrestrfa Neilltuol ac mae Cymorth Myfyrwyr ar restr fer y categori Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr Neilltuol.

Sefydlwyd Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg yn 2001. O dan arweinyddiaeth Dr Mari Elin Jones mae’n hybu’r defnydd o’r Gymraeg a dwyieithrwydd o fewn y Brifysgol ac yn hyrwyddo amgylchedd lle mae pawb yn medru defnyddio’r iaith o’u dewis.

Yn ogystal â chynnig cefnogaeth ymarferol i staff a myfyrwyr sydd yn awyddus i wella eu sgiliau iaith, mae’r Ganolfan yn chwarae rhan flaenllaw yn natblygiad rhaglenni astudio cyfrwng Cymraeg. O ganlyniad dynodwyd yr Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol a’r Sefydliad Mathemateg a Ffiseg yn brif ddarparwyr o gyrsiau cyfrwng Cymraeg gan Grŵp Sector Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg.

Yn dilyn ailstrwythuro Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr yn 2008 agorodd y Brifysgol Ganolfan Croeso Myfyrwyr ym mis Mai 2009 sydd yn golygu fod gwasanaethau cynghori bellach ar gael o un pwynt canolog ar gampws Penglais.

O dan gyfarwyddiaeth Dr John Powell mae Cymorth Myfyrwyr wedi mynd ati i newid ei diwylliant o fod yn ‘ddarparwr lles sydd yn ymateb’ i fod yn ‘hyrwyddwr llwyddiant myfyrwyr’, ac wedi gweld gostyngiad yn 2009 o fwy na 25% yn nifer y myfyrwyr sydd ddim yn cwblhau eu cyrsiau, yr isaf yng Nghymru ac ymysg yr isaf yn y Deyrnas Gyfunol.

Ym mis Medi 2009 lansiodd Cymorth Myfyrwyr wasanaeth Meddyg Arian ar gyfer myfyrwyr ac yn ddiweddar agorwyd Clinig Iechyd Rhyw newydd fel rhan o gynllun peilot dwy flynedd gyda Bwrdd Iechyd Ceredigion. Yn ogystal mae wedi lansio cymhwyster blaengar newydd ar gyfer aelodau staff mewn Cynorthwyo Myfyrwyr.  

Dywedodd Yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth University:
“Hoffwn longyfarch y ddau dîm ar gael eu cynnwys ar y rhestr fer yn caterogiau perthnasol yng Ngwobrau Arweinyddiaeth a Rheolaeth Addysg Uwch 2010 y Times Higher Education. Mae hyn yn gydnabyddiaeth bellach o ymrwymiad ein staff i sicrhau fod y profiad myfyrwyr yn Aberystwyth o radd flaenaf.”

Bydd enillwyr Gwobrau Arweinyddiaeth a Rheolaeth Addysg Uwch 2010 y Times Higher Education yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni yng Ngwesty’r Grosvenor House yn Llundain ar yr 17eg o Fehefin 2010.