Darganfyddiad Newydd yn Nirgelwch Cerrig Gleision Côr y Cewri

Côr y Cewri

Côr y Cewri

22 Chwefror 2011

Mae tarddiad cerrig gleision Côr y Cewri wedi bod yn destun chwilfrydedd a chryn ddadlau ers tipyn. Cafodd un math o garreg las, y ‘dolerit smotiog’, ei holrhain yn llwyddiannus i Fynydd y Preseli yng ngogledd Sir Benfro yn gynnar yn y 1920au.

Mae ffynhonnell y cerrig gleision eraill fodd bynnag – y rhyolitau (math o garreg) a’r tywodfeini prin wedi aros yn ddirgelwch, tan yn ddiweddar.

Bellach mae daearegwyr yn Amgueddfa Cymru wedi pennu tarddiad un o’r mathau o ryolit, sydd hefyd yn gyfle i feddwl o’r newydd am sut allai’r cerrig fod wedi eu cludo i Gôr y Cewri.

Mae eu canfyddiadau yn cael eu cyhoeddi yn rhifyn Mawrth 2011 o’r Journal of Archaeological Science.

Mae Dr Richard Bevins, Ceidwad Daeareg Amgueddfa Cymru, ynghyd â Dr Rob Ixer, Prifysgol Caerlyr a Dr Nick Pearce o Brifysgol Aberystwyth, wedi bod yn gweithio ar gyfansoddiad rhyolit y cerrig gleision, ac maent wedi dod i’r casglid ei fod o darddiad Cymreig.

Drwy gyfuno technegau petrograffig cyffredin a dadansoddiad cemegol soffistigedig o’r samplau o Gôr y Cewri a gogledd Sir Benfro drwy ddefnyddio sbectromeg mas anwythiad abladiad laser cypledig ym Mhrifysgol Aberystwyth, maen nhw wedi matsio un rhyolit penodol i ardal i’r gogledd o Fynyddoedd y Preseli ger Pont Saeson.

Mae’r cerrig gleision yn set nodedig o gerrig sy’n ffurfio cylch mewnol a phedol mewnol Côr y Cewri. Mae’r rhan fwyaf o waith archaeoleg yn y blynyddoedd diwethaf wedi cael ei seilio ar y gred fod gan ddyn y Cyfnod Neolithig reswm dros gludo’r cerrig gleision yr holl ffordd o orllewin Cymru i Gôr y Cewri, a bod ganddo’r gallu technolegol i wneud hynny.

Dywedodd Richard Bevins:

“Mae’r darganfyddiad diweddar hwn yn nodedig iawn oherwydd y gallai roi cliwiau i ni i ddeall sut a pham o bosibl y cludwyd y cerrig gleision Cymreig i Gôr y Cewri.

“Mae rhai wedi dadlau i ddyn gludo’r doleritau smotiog o dir uchel Mynydd y Preseli i lawr i’r arfordir yn Aberdaugleddau cyn eu cludo ar rafftiau ar hyd Môr Hafren ac afon Avon i Gôr y Cewri. Mae canlyniad ein hymchwil yn amau’r daith honno fodd bynnag, gan ei bod yn annhebygol eu bod wedi cludo cerrig Pont Saeson i fyny llethrau Mynydd y Preseli ac i lawr yr ochr draw i Aberdaugleddau. Os taw dyn oedd yn gyfrifol mae’n rhaid ystyried taith wahanol. Mae rhai’n credu fodd bynnag, taw gwaith rhewlifau yn ystod yr oes ia ddiwethaf a gludodd y cerrig, ac felly bydd yn rhaid ystyried darganfyddiad Pont Saeson yng nghyd-destun yr hypothesis hwn.

“Mae matsio’r garreg o Gôr y Cewri â brigiad cerrig yn Sir Benfro wedi bod yn dasg anodd iawn ond rwyf wedi edrych ar nifer fawr, os nad y mwyafrif o frigiadau cerrig ym Mynyddoedd y Preseli. Rydyn ni’n ffyddiog ein bod wedi canfod tarddiad un o’r rhyolitau o Gôr y Cewri am ein bod wedi gallu matsio ystod o nodweddion ac nid dim ond un agwedd. Rydyn ni nawr yn chwilio am darddiad y cerrig folcanig a thywodfeini eraill Côr y Cewri. 

Cyfrinach y Sircon

Mae Dr Nick Pearce sy’n Ddarllenydd mewn Geocemeg yn y Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi bod yn dadansoddi samplau sy’n cymharu creigiau yng Nghôr y Cewri â rhai o Ogledd Sir Benfro.

Mae Dr Pearce a’i gydweithwyr yn y Sefydliad wedi arloesi gyda thechneg sy’n defnyddio laser i anweddu samplau bach o greigiau fel y gellir pennu eu cyfansoddiad cemegol.

Yn achos y samplau o Gôr y Cewri a Sir Benfro, canolbwyntiodd Dr Pearce ar geocemeg gronynnau bach iawn o’r mwyn sircon sydd i’w ganfod yn y creigiau.

Dewiswyd y gronynnau sircon, sy’n mesur rhwng 50 a 100 o ficronau ar draws ac na ellir eu gweld â’r llygaid, drwy edrych ar dafellau tryloyw o’r graig, a oedd wedi’u llfyfnu, o dan ficrosgop.

Unwaith y daethpwyd o hyd iddo cafodd rhan o’r sircon ei anweddu gan belydr pwerus o laser a oedd yn mesur 10 micron yn unig, sef 100fed rhan o filimedr ar draws, ac fe’i dadansoddwyd mewn sbectromedr màs.

Yn union fel olion bysedd unfath, nid oedd modd gwahaniaethu rhwng cyfansoddiad cemegol y mwyn sircon yn y ddwy sampl. Roedd hyn yn profi y tu hwnt i amheuaeth resymol bod y rhyolit yng Nghôr y Cewri yn tarddu o frig caregog o Bont Saeson ar ochr ogleddol y Preselau.

Datblygwyd y dechneg a ddefnyddiwyd gan Dr Pearce yn yr astudiaeth hon er mwyn edrych ar gyfansoddiad gronynnau bach iawn o haenau tenau o ludw folcanig.

Mae llawer o ddadlau wedi bod ynghylch union ddyddiad echdoriad Santorini, tua 1630CC, a defnyddiwyd y dechneg hon i gadarnhau neu wrthbrofi o ble y deuai samplau o ludw a gasglwyd o fannau ar draws y byd ac y tybiwyd eu bod yn tarddu o Santorini.