‘Domestic Abuse Children Victims and the Criminal Courts’

Adeilad Gwleidyddiaeth Rhyngwladol lle y bydd y ddarlith yn cael ei chynnal

Adeilad Gwleidyddiaeth Rhyngwladol lle y bydd y ddarlith yn cael ei chynnal

06 Mawrth 2011

Darlith Flynyddol Canolfan Materion Cyfreithiol Cymreig 2011

Bydd Ms Beth Thomas, Erlynydd y Goron gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron Dyfed Powys yn traddodi darlith flynyddol 2011 Canolfan Materion Cyfreithiol Cymreig ar ddydd Mercher 9ed Mawrth 2011.

Pwnc darlith Ms Thomas fydd ‘Domestic Abuse Children Victims and the Criminal Courts’. Cynhelir y ddarlith ym Mhrif Neuadd Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol Prifysgol Aberystwyth a bydd yn dechrau am 7 yr hwyr.

Canolfan ymchwil wedi ei lleoli yn Adran y Gyfraith a Throseddeg y Brifysgol yw’r Ganolfan Materion Cyfreithiol Cymreig. Fe’i sefydlwyd ym 1999 gyda'r bwriad o atgyfnerthu a rhoi ffocws i waith ac arbenigedd yr Adran ym maes y Gyfraith a'i pherthnasedd i Gymru, a datblygiadau cyfreithiol cyffredinol sy'n gysylltiedig â Chymru.

Prif amcan y Ganolfan yw ystyried a oes ffordd benodol Gymreig o edrych ar faterion cyffredinol o fewn i system gyfreithiol Cymru a Lloegr, a sicrhau bod datblygiadau cyfreithiol Cymreig yn cael eu hystyried yng nghyd-destun ehangach datblygiadau Prydeinig, Ewropeaidd a rhyngwladol.

Dywedodd Dr Catrin Fflur Huws, Cadeirydd y Ganolfan Materion Cyfreithiol Cymreig “Y mae’r pwnc hwn yn mynd i fod yn berthnasol nid yn unig i ymarferwyr y gyfraith ond hefyd i fyfyrwyr, academyddion a’r gymuned gyffredinol.”

AU4111