Gwobr Llyfr y Flwyddyn

Tyler Keevil

Tyler Keevil

03 Mai 2011

Mae myfyriwr doethuriaeth o Brifysgol Aberystwyth wedi profi llwyddiant llenyddol sydd yn ei osod ymysg rhai o awduron mwyaf Cymru.

Cafodd Tyler Keevil, sydd yn astudio Ysgrifennu Creadigol, ei gynnwys ar restr hir yr adran Saesneg o Wobr Llyfr y Flwyddyn, cystadleuaeth sydd wedi ei hennill yn y gorffennol tan Philip Gross, Dannie Abse ac Owen Sheers.

Ei nofel gyntaf, Fireball, gafodd ei chyhoeddi gan Parthian llynedd, sydd wedi ei chynnwys ar y rhestr hir, nofel sy’n dilyn hynt a helynt criw o bobl ifainc yn eu harddegau yn ystod haf hir a phoeth yn Vancouver ac sy’n arwain at uchafbwynt dramatig a threisgar.

Mae Tyler, a ddaeth i Gymru o Ganada yn 1999, yn darlithio ar ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Caerloyw. Dywedodd, “Rwy’n ddiolchgar iawn fod darllenwyr wedi mwynhau Fireball. Mae’r ymateb wedi bod yn hynod gadarnhaol. Cefais lawer o gymorth ar hyd y ffordd, gan fy ngolygydd Lucy Llewellyn, a chan fy athrawon yn Aberystwyth, yn bennaf Dr Matthew Francis sydd yn arolygu fy noethuriaeth.  Mae cael fy nghynnwys ar restr hir Llyfr y Flwyddyn yng Nghymru yn brofiad cyffrous ac yn destun llawenydd.”

Gyda’i fysedd wedi’u croesi, mae Tyler yn gobeithio’n fawr y bydd ar y restr fer o dri llyfr pan gaiff honno ei chyhoeddi ym mis Mai. Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf ac yn derbyn siec am £10,000.

AU9511