Ymweliad Kochi

Ch-Dd Dr Steve Fish; Gareth Llewellyn, Llywodraeth Cymru; yr Athro Nasu; yr Athro Nagano; Tim Williams, Consortiwm Newid Hinsawdd Cymru; yr Athro Iain Donnison; Dr Jo Gallagher; yr Athro Sakuma; yr Athro John Valentine; yr Athro Hatta.

Ch-Dd Dr Steve Fish; Gareth Llewellyn, Llywodraeth Cymru; yr Athro Nasu; yr Athro Nagano; Tim Williams, Consortiwm Newid Hinsawdd Cymru; yr Athro Iain Donnison; Dr Jo Gallagher; yr Athro Sakuma; yr Athro John Valentine; yr Athro Hatta.

28 Mehefin 2011

Ar ddydd Llun 27 Mehefin bu cynrychiolwyr o Brifysgol Technoleg Kochi, Japan yn ymweld â Phrifysgol Aberystwyth.

Roedd pedwar uwch academydd ar yr ymweliad, yr Athro Seigo Nasu, Cyfarwyddwr, Ysgol Rheolaeth a Chanolfan Ymchwil ar gyfer Systemau Rheoli Cymdeithasol, yr Athro Taketo Sakuma, Llywydd y Brifysgol, yr Athro Masanobu Nagano, Athro a Phennaeth Adran Ysgogi’r Gymdeithas, a’r Athro Akimitsu Hatta, Pennaeth y Ganolfan Cysylltiadau Rhyngwladol ac Athro’r Adran Peirianneg Systemau.

Roedd eu hymweliad yn rhan o daith pedwar diwrnod o amgylch sefydliadau gwyddonol Cymru, gan gynnwys prifysgolion Aberystwyth a Bangor.

Tra eu bod yn Aberystwyth bu’r cynrychiolwyr yn ymweld â Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), y Sefydliad Mathemateg a Ffiseg (IMAP), ac yn ciniawa gyda’r Athro Noel Lloyd ac aelodau o’r Uwch Dîm Rheoli ym Mhlas Penglais. Yn dilyn hyn buont yn ymweld â Chanolfan y Dechnoleg Amgen ym Machynlleth cyn teithio i Fangor.

Roedd yr ymweliad yn gyfle i’r cynrychiolwyr weld y gwaith sy’n cael ei gyflawni ar hyn o bryd yn IBERS ac IMAPS, ac yn gymorth i ddatblygu cysylltiad traws-sefydliadol cryf rhwng Aberystwyth a Phrifysgol Kochi.

AU16111