Josef Herman: Arddangosfa Canmlwyddiant

Joseff Herman (1911-2000) In the Pitt 1952

Joseff Herman (1911-2000) In the Pitt 1952

29 Mehefin 2011

Mae arddangosfa yn dathlu canmlwyddiant yr arlunydd realaidd, Josef Herman i’w gweld yn awr yn Oriel Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth.

Ganed Josef Herman O.B.E., R.A. yng Ngwlad Pwyl  i deulu o Iddewon, ond  fel arlunydd a chanddo gysylltiad â Chymru, ac yn arbennig Ystradgynlais, y cofir amdano. Ffodd rhag erledigaeth y Natsïaid yn Warsaw, ac yn dilyn cyfnod ym Mrwsel , Llundain a Glasgow, ymwelodd ag Ystradgynlais gyntaf yn 1944.

Trodd ei wyliau yng Nghymru yn arhosiad deng mlynedd pan benderfynodd Herman ymgartrefu yn Ystradgynlais, a daeth y gymuned lofaol leol yn ysbrydoliaeth i lawer o’r gweithiau a gynhyrchodd drwy gydol canol yr 1940’au i’r 1950’au.  Ar ddiwedd ei fywyd, ysgrifennodd “...dim ond Ystradgynlais newidiodd fy mywyd a fy ngwaith... Pan adewais fe es i ag o gyda mi”. Bu farw ‘Joe Bach’, fel y’i hadwaenid,  ym mis Chwefror 2000.

“Mae’r Ysgol Gelf yn falch o arddangos y casgliad hwn i ddynodi canmlwyddiant geni Josef Herman,” meddai  Dr Simon Pierce o’r Ysgol Gelf,  sydd wedi bod yn gweithio ar yr arddangosfa ar y cyd â’r Boundry Gallery, Llundain. Ffocws yr arddangosfa yw paentiadau a darluniau o Ystradgynlais a ddetholwyd gan Agi Katz, Cyfarwyddwr y Boundary Gallery; maent yn cynnwys gweithiau pwysig ar fenthyg gan deulu Herman ac Ystâd Herman.

Caiff yr arddangosfa ei hagor yn swyddogol nos Sadwrn 2il o Orffennaf am 6.30 yn Oriel yr Ysgol Gelf gan fab yr arlunydd, David Herman.

AU15811