Alumni yn y Senedd

Y Senedd

Y Senedd

06 Mehefin 2011

Wrth i Gynulliad Cymru ailymgynnull yn dilyn yr etholiad, bydd deg o alumni Prifysgol Aberystwyth (pump o Blaid Cymru, pedwar o’r Blaid Lafur ac un Democrat Rhyddfrydol) yn cymryd eu seddau yn y Senedd. 

Etholwyd pedwar o’r deg AC am y tro cyntaf yn yr etholiad ar 5 Mai ac mae’r chwech arall yn dychwelyd am dymor pellach ym Mae Caerdydd.

Mae’r deg Aelod Cynulliad yn ymuno â thri ar ddeg o alumni Prifysgol Aberystwyth a etholwyd yn Aelodau Seneddol yn Etholiad Cyffredinol 2010.

Dywedodd yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth “Rwyf i wrth fy modd i nodi bod alumni Prifysgol Aberystwyth yn cyfrif am un rhan o chwech o’r Cynulliad Cenedlaethol. Rwyf i, a phawb yn y Brifysgol yn eu llongyfarch ar gael eu hethol ac yn dymuno pob llwyddiant iddyn nhw yn eu gyrfa wleidyddol.”

Dywedodd Julian Smyth, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth: “Rydym ni yn Aber wastad wedi gwybod mor arbennig yw ein cyn-fyfyrwyr, ond mae’n wirioneddol wych gweld i ba raddau, yn gyntaf yn etholiadau San Steffan a nawr y Cynulliad, y mae’r boblogaeth gyffredinol yn cytuno â ni.”

ACau sy’n Alumni Aberystwyth

Christine Chapman AC (Llafur): Aelod Cynulliad dros Gwm Cynon ers 1999. Graddiodd Ms Chapman â BA mewn Astudiaethau Clasurol a Hanes (1978). Yn ystod sesiwn ddiwethaf y Llywodraeth hi oedd cynrychiolydd y Cynulliad Cenedlaethol ar Bwyllgor y Rhanbarthau ym Mrwsel a Chadeirydd Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad.

Alun Davies AC (Llafur): etholwyd yn wreiddiol i’r Senedd fel aelod rhanbarthol dros Canol a Gorllewin Cymru yn 2007 yna yn AC dros Flaenau Gwent ym mis Mai eleni. Graddiodd Mr Davies â BScEcon mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol (1986)  ac fe’i penodwyd yn ddiweddar yn Ddirprwy Weinidog dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd, Bwyd a Rhaglenni Ewropeaidd.

VaughanGething AC (Llafur): AC newydd ei ethol dros Dde Caerdydd a Phenarth. Graddiodd Mr Gething yn y Gyfraith (1999), ac roedd yn bartner gyda Chyfreithwyr Thompsons. Ef hefyd oedd Llywydd ieuengaf erioed TUC Cymru yn ystod 2007/8.

Llŷr Huws Gruffydd AC (Plaid Cymru):etholwyd yn AC Rhanbarthol dros Ogledd Cymru yn etholiad 2011. Graddiodd Mr Huws Gruffydd â BA yn y Gymraeg (1992) cyn gweithio fel Swyddog Cyfathrebu Cymru yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ef ar hyn o bryd yw Llefarydd yr Wrthblaid ar Faterion Gwledig.

Bethan Jenkins AC (Plaid Cymru):ail-etholwyd i’r Cynulliad yn AC dros Dde Orllewin Cymru. Fe’i hetholwyd yn wreiddiol i’r Cynulliad yn 2007 yn 26 oed, yr Aelod ieuengaf o’r Cynulliad. Graddiodd Ms Jenkins â BScEcon mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Hanes Rhyngwladol yn 2005. Ar hyn o bryd hi yw Llefarydd yr Wrthblaid ar Dreftadaeth, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon.

Carwyn Jones AC (Llafur): Prif Weinidog Cymru. Fe’i hetholwyd i’r Cynulliad ym 1999 yn Aelod dros Ben-y-bont ar ôl treulio amser yn fargyfreithiwr yn arbenigo mewn cyfraith Teulu, Trosedd ac Anafiadau Personol. Graddiodd Mr Jones â LLB yn y Gyfraith o Adran y Gyfraith a Throseddeg (1988).

Elin Jones AC (Plaid Cymru): ailetholwyd yn AC dros Geredigion ar ôl cael ei hethol am y tro cyntaf ym 1999. Yn ystod sesiwn flaenorol y Cynulliad, fe’i penodwyd yn Weinidog dros Faterion Gwledig. Graddiodd Ms Jones ag MSc mewn Economeg Amaethyddol o Brifysgol Aberystwyth ym 1989 a hi bellach yw Llefarydd yr Wrthblaid ar Iechyd.

Aled Roberts AC (Democrat Rhyddfrydol): un o’r ACau Rhanbarthol newydd dros Ogledd Cymru. Graddiodd Mr Roberts yn y Gyfraith (1983) a threuliodd lawer o’i yrfa fel cyfreithiwr a phartner yng nghwmni cyfreithwyr Geoffrey Morris and Ashton yn Wrecsam cyn dod yn Arweinydd Cyngor Sir Wrecsam yn 2005.

Rhodri Glyn Thomas AC (Plaid Cymru): etholwyd am y tro cyntaf ym 1999 yn Aelod Cynulliad dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr. Graddiodd â BA yn y Gymraeg ac Addysg (1975) ac ef yw Llefarydd Plaid Cymru ar Ewrop, Llywodraeth Leol, Cymunedau a Thrafnidiaeth.

SimonThomas AC (Plaid Cymru): mae ganddo BA yn y Gymraeg ac Addysg (1985) a DipLib (1988). Mr Thomas oedd AS Ceredigion o 2000-2005, ac yn dilyn hynny bu’n gweithio fel Uwch Ymgynghorydd Arbennig i Lywodraeth Cymru. Etholwyd yn AC Rhanbarthol dros Canolbarth a Gorllewin Cymru yn etholiad 2011ac ef yw Llefarydd yr Wrthblaid ar Addysg, Addysg Uwch a Sgiliau.

AU13011