SEACAMS

SEACAMS

SEACAMS

16 Mehefin 2011

Mae SEACAMS (Sustainable Expansion of the Applied Coastal and Marine Sectors), menter sy’n cefnogi nifer eang o ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig â’r arfordir a’r môr, yn lansio yn Aberystwyth heddiw.

Mae tîm SEACAMS wedi bod yn lansio eu prosiect mewn nifer o leoliadau o amgylch Cymru yn ystod mis Mehefin gan orffen yn Safle’r Band, Aberystwyth ar yr 16eg o Fehefin.

Bwriad y ‘Digwyddiad Busnes o Amgylch Cymru’ sydd wedi ymweld â Pot Menai, Abertawe a Chaerdydd yn barod, yw codi proffil prosiect cyffrous ac uchelgeisiol SEACAMS a phwysigrwydd busnesau morol cynaliadwy i ddyfodol economaidd Cymru.

“Mae prosiect SEACAMS yn cael ei redeg ar y cyd gan Brifysgolion Bangor, Abertawe ac Aberystwyth er mwyn adeiladu partneriaeth gryfach rhwng addysg a busnesau Cymru,” meddai’r Athro Colin Jago, Arweinydd SEACAMS a Phennaeth Coleg Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor.

Ym mhob ‘Digwyddiad Busnes’ mae yna arddangosfa arfordirol a morol wedi ei chynnal a’r cyfle i siarad gydag arbenigwyr SEACAMS am y prosiect a sut mae’r amrywiaeth o arbenigedd a’r cymwysterau ar gael yn SEACAMS o fudd i fusnesau.

“Rydym yn gweithio’n galed i ddatblygu Cymru fel canolfan byd eang yn y maes gwyddorau a thechnoleg forol ac arfordirol drwy ein prosiect SEACAMS yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion. Ymunwch â ni i gael gweld rhai o agweddau blaenllaw y maes morol arwaith,” meddai Dr Gay Mitchelson-Jacob, Rheolwr Prosiect SEACAMS.

Gwahoddwyd cymuned busnes morol Cymru i ymuno a thîm SEACAMS yn un o’r digwyddiadau am ddim yma i fusnesau. Mae’r digwyddiad yn disgyn o fewn ‘Wythnos Genedlaethol y Prifysgolion’ (13eg i 19eg o Fehefin), ac o dan y pennawd Syniadau Mawr i Fusnesau, mae’r digwyddiad yn esiampl o sut mae prifysgolion a busnesau yn cydweithio ym Mhrydain. Mae’r cysylltiadau yma yn rhoi hwb i’r economi leol ar draws Prydain.

Dywedodd yr Is-Ganghellor, Yr Athro Noel Lloyd: “Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch o fod yn rhan o brosiect SEACAMS. Mae’n bwysig fod prifysgolion yn gweithio mewn partneriaeth – gyda’i gilydd a gyda busnesau – er mwyn cynyddu effaith eu gwaith ymchwil a’u cyfraniad tuag at economi Cymru. Edrychwn ymlaen at ddatblygu’n perthynas gyda Bangor ac Abertawe drwy hyn tra’n cefnogi diwydiannau arfordirol a morol.”

Mae prosiect SEACAMS wedi ei ddylunio i gefnogi busnesau arfordirol a morol yng Nghymru drwy gydweithio ac academyddion, unigolion, a mentrau drwy helpu i gynnal cynlluniau ymchwil ac astudiaethau posib.

“Ein bwriad yw helpu busnesau bach a chanolig eu maint drwy gynnig arbenigedd a chyfleusterau drwy obeithio cynyddu’r nifer o swyddi a’r gweithredoedd economaidd yn y sector forol,” meddai Athro Jago.

Cyllidir y prosiect yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, rhan o Gynulliad Cymru.

AU14811