Oes yr henoed

OPAN

OPAN

20 Mehefin 2011

Prifysgol Aberystwyth yn ceisio gwella bywydau pobl hŷn yng nghefn gwlad Cymru.

Beth yw’r materion sy’n effeithio ar fywydau pobl hŷn yng nghefn gwlad Cymru?

Ar 20 Mehefin 2011, bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal digwyddiad ymchwil ar y cyd â’r Rhwydwaith Ymchwil a Datblygu Pobl Hyn a Heneiddio (OPAN).

Mae’r gwaith ymchwil sy’n cael ei gyflawni yn y Brifysgol ar hyn o bryd yn cynnwys atal cwympiadau, delio â chanser a gofal diwedd bywyd; yn ogystal â mater amserol cam drin yr henoed.

Bydd y digwyddiad undydd hwn, sef “Yr Agenda Oedran yn Aberystwyth – adeiladu ymchwil cydweithredol â phobl hŷn ar heriau heneiddio yn y 21ain ganrif”, yn casglu ynghyd academyddion o nifer o adrannau’r Brifysgol, gwneuthurwyr polisi, preswylwyr lleol hŷn a sefydliadau o’r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol i ganfod y materion sydd o bwys gwirioneddol i bobl hŷn. Bydd hyn yn galluogi academyddion yn y Brifysgol i deilwra ei hymchwil yn y dyfodol i’r meysydd angen mwyaf perthnasol.

Dywedodd Dr Kate Bullen, Pennaeth Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth:

“Ein nod yw dod ag arbenigwyr a phobl hŷn ynghyd i ddarparu fforwm i ddatblygu syniadau ymchwil a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl hŷn sy’n byw yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Powys a ledled Cymru a thu hwnt. Credwn yn ddiffuant ei fod yn hanfodol - os ydym am gynhyrchu canfyddiadau ac atebion da, effeithiol a realistig i’r problemau y mae pobl hŷn yn gorfod eu hwynebu - i gynnwys y bobl hŷn eu hunain yn ein gwaith, ac i ddeall yr heriau y maent yn eu hwynebu.”

Dywedodd y Parchedig Eldon Phillips, Caplan Ysbyty Singleton, Abertawe, a Chadeirydd Fforwm Cleifion De Cymru, a fydd yn siarad yn y digwyddiad: “Gall pobl sy’n dechrau mynd yn oedrannus gael pryderon ynghylch pensiynau a budd-daliadau, ac yn fy ngwaith rwy’n aml yn cwrdd â phobl dan ofal lliniarol sy’n siarad am eu hanghenion ysbrydol a’u lles, a marw ag urddas. I’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd gwledig, gall y pryderon hyn gynyddu yn sgil  trafnidiaeth ac argaeledd gwasanaethau”.

Cyflwynir arolwg o ymchwil cyfredol Prifysgol Aberystwyth i heneiddio, i’w ddilyn gan sesiwn holi ac ateb.

Yn olaf, gofynnir i’r mynychwyr weithio gyda'i gilydd i ganfod meysydd allweddol o ymchwil cydweithredol ac amlddisgyblaethol a allai gael effaith ystyrlon ar fywydau pobl hŷn.

Amcan y digwyddiad yw galluogi ymchwilwyr yn y Brifysgol, sy’n gweithio gyda OPAN Cymru,

i gynhyrchu syniadau ymchwil newydd a allai ddylanwadu ar y ffordd mae pobl hŷn yn byw yng Nghymru.

Ariennir OPAN Cymru gan Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac mae’n ymroddedig i wella bywydau pobl hŷn yng Nghymru drwy gyfuno ymchwil, polisi ac ymarfer.

AU14211