Cymru ar y bocs

Dr Iwan Morus

Dr Iwan Morus

20 Mehefin 2011

Cof a'r Cyfryngau yng Nghymru, 1950 – 2000

Lansiwyd archif newydd ar lein o 120 o hanesion llafar cyfareddol am atgofion pobl o deledu yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif gan dîm o dan arweinyddiaeth Dr Iwan Morus o Adran Hanes a Hanes Cymru.

Sail yr archif yw atgofion pobl o eistedd o flaen y teledu i wylio digwyddiadau megis Coroni'r Frenhines ym 1953, delweddau torcalonnus trychineb Aberfan, lansiad arloesol y sianel deledu Gymraeg S4C, a'r tensiwn wrth i ganlyniadau refferendwm datganoli 1997 gael eu cyhoeddi.

Cafodd y wefan newydd Cof a'r Cyfryngau yng Nghymru, 1950 – 2000, www.cofarcyfryngau.co.uk  ei lansio  yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar ddydd Gwener 17eg Mehefin 2011.  

Dros y chwe mis diwethaf, mae swyddogion prosiect wedi cofnodi atgofion pobl am deledu yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif ac wedi cynhyrchu archif o 120 o hanesion llafar cyfareddol.

Wrth weithio mewn pedair ardal yng Nghymru – Caernarfon, Caerfyrddin, Y Rhondda a Wrecsam – mae Lois Thomas a Dana Edwards wedi cyfweld pobl ynglŷn â'r ffordd effeithiodd teledu ar eu bywydau a'r ffordd yr oeddent yn gweld y byd o'u cwmpas.

Mae Dana Edwards yn esbonio sut “newidiodd y teledu fywydau pobl. Roedd The Forsyte Saga yn bwysig iawn i lawer gyda darlledu'r ddrama deulu hon ar nos Sul yn gorfodi newid amseroedd gwasanaethau capel. Awgrymodd un gapelwraig i'w gweinidog y dylai gwtogi ar ei bregeth fel y gallai hi fynd adref i wylio'r 'bocs'!”

Gofynnwyd i gyfranwyr am eu hatgofion o wylio hen ffilm y BBC am rai o'r digwyddiadau mwyaf arwyddocaol yng Nghymru yn ystod yr hanner can mlynedd dan sylw. Roedd yn dechrau gyda Choroni Elizabeth II ac yn delio â'r fath bynciau â Thrychineb Aberfan, Streic y Glowyr 1984-85, Arwisgiad Tywysog Charles a'r ddau ymgyrch Datganoli. Wrth ganolbwyntio sylw pobl ar ddigwyddiadau penodol cafwyd hanesynnau diddorol. “Yn y dyddiau cynnar, roedd setiau teledu'n brin ac mae llawer yn cofio gwylio teledu yn weithgaredd cymdeithasol. Cofia un cyfrannwr sut y gwyliodd Coroni'r Frenhines ym 1953 yn eistedd y tu allan i siop ar y briffordd drwy'r Rhondda a gorfod symud ei gadair pob tro byddai car eisiau pasio.”

Dywedodd Dr Iwan Morus, pennaeth y prosiect: “Mae'r cyd-destun Cymreig yn arbennig o berthnasol i'r prosiect ac yn ychwanegu'n arwyddocaol i'w werth dichonol gan fod, am amrywiaeth o resymau gwleidyddol ac ieithyddol, hanes teledu yng Nghymru wedi bod yn hanes gwrthdaro. Am lawer o'r hanner can mlynedd dan sylw, ffurfiodd teledu faes brwydr allweddol mewn brwydrau dros hunaniaeth ieithyddol a chenedlaethol. Fe fydd yr archif yn dilyn y prosiect hwn yn cynnig adnodd arwyddocaol ar gyfer deall gwleidyddiaeth teledu.”

Ariannwyd y prosiect gan y Joint Information Systems Committee (JISC), ac mae wedi'i gyflawni gan Adran Hanes a Hanes Cymru Prifysgol Aberystwyth gyda chefnogaeth partneriaid y prosiect, Culturenet Cymru. Mae partneriaid eraill yn cynnwys BBC Cymru; roedd eu hen ffilm yn sbarduno atgofion pobl, ac Archif Sgrin a Sain yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lle caiff y cynnwys ei archifo.

Os caiff pobl eu hysbrydoli i rannu'u hatgofion eu hunain o wylio'r digwyddiadau hyn ac o effaith teledu ar eu bywydau, fe allant wneud drwy gyfrannu i wefan Casgliad y Werin Cymru – www.casgliadywerincymru.co.uk.

Partneriaid / cyllidwyr y prosiect: Joint Information Systems Committee (JISC), Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Casgliad y Werin  Cymru. Derbyniodd y prosiect £93,000 oddi wrth JISC.

 AU15211