Datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg

Dr Elin Haf Gruffydd Jones

Dr Elin Haf Gruffydd Jones

06 Gorffennaf 2011

“Mae’n gyfnod cyffrous i fod yn gweithio mewn prifysgol yng Nghymru - mae gennym ni genadwri arbennig ac adnoddau yn gefn i’r genadwri honno.”

Dyma sylwadau a wnaed gan Dr Elin Haf Gruffydd Jones o Adran Theatr Ffilm a Theledu yng nghynhadledd gyntaf y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a gynhaliwyd yma yn Aberystwyth ddoe, dydd Mawrth 5ed Gorffennaf.

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn sefydliad cenedlaethol newydd a fydd yn chwarae rhan allweddol mewn cynllunio, cynnal a datblygu addysg ac ysgolheictod cyfrwng Cymraeg yn ein prifysgolion.

Gyda sawl darlithyddiaeth yn cael ei hysbysebu ar gyfer y Coleg – chwech ohonynt ym Mhrifysgol Aberystwyth – nododd Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg fod y gynhadledd arbennig hon yn fan cychwyn pwysig ar gyfer llunio Cynllun Academaidd i’r Coleg.

Yn ystod y dydd cafwyd sawl trafodaeth ar y datblygiadau academaidd o fewn y sector addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Cafwyd cyfraniadau gan bartneriaid i ddatblygiadau, gweithdai yn cyflwyno’r cyd-destun rhyngwladol, ac enghreifftiau o arfer da oedd yn tanlinellu pwysigrwydd cyfoethogi profiadau astudio cyfrwng Cymraeg. 

Soniodd Dr Hywel Griffiths o Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth am ei brofiad yn cynnig modiwlau cydweithredol cyfrwng Cymraeg, gan amlinellu’r dulliau dysgu blaengar sydd eisoes yn cael eu defnyddio:

“Bu treialu ‘cipio darlith’ ar gyfer y modiwl Gemorffoleg Afonol yn ystod 2010-2011 yn llwyddiannus iawn,” meddai’r darlithydd daearyddiaeth ffisegol. “Rwy’n credu ei fod yn cynnig nifer o bosibiliaidau o ran cydweithio sefydliadol ac felly yn cynyddu’r cyfleon astudio i fyfyrwyr.“

Wrth gloi nododd Cadeirydd y Coleg Cenedlaethol, Yr Athro Merfyn Jones, bod trafodaethau’r dydd wedi crisialu pa mor bwysig, er mwyn dyfodol yr iaith, oedd y gallu i drafod syniadaeth a syniadau yn Gymraeg, a’r cyfle cyffrous oedd gan y Coleg Cenedlaethol i gyfrannu at hyn.

AU17111