MA i Ursula

Ursula Byrne

Ursula Byrne

15 Gorffennaf 2011

Bydd Ursula Byrne, Rheolwr Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Aberystwyth yn derbyn ei gradd MA (Gwyddeleg) yr wythnos hon. Graddiodd Ursula yn wreiddiol o Goleg y Brifysgol, Dulyn, gyda BA mewn Gwyddeleg a Chymraeg.

Ers symud i fyw i Gymru yn 1984 mae wedi gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob swydd a ddaliodd, yn cynnwys ei hamser gyda Manweb, fel Rheolwraig Gofal a Thrwsio gyda Chymdeithas Tai Cantref, a’r ddwy flynedd pan oedd yn gweithio i Ffagl Gobaith.  Ar ôl cwblhau cwrs TAR yn 2004-05 fe ymunodd wedyn â staff yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes.

“Dechreuais astudio ar gyfer yr MA yn 2005 pan oeddwn yn gweinyddu’r Radd Allanol Trwy Gyfrwng y Gymraeg,” esboniodd Ursula. “Yna fe symudais i swydd amser llawn, a oedd yn golygu fy mod wedi cymryd yn hirach i gwblhau’r traethawd estynedig. Mae MA o’r math yma, sydd ar gael i’w astudio yn rhan amser, yn arbennig o addas i bobol sy’n gweithio,” meddai.

Testun traethawd estynedig Ursula oedd ‘Golwg ar y defnydd o Lenyddiaeth Wyddeleg yn arholiad yr Ardteistiméireacht   1924-2008’.   Bu’n ymchwilio i destunau a meysydd llafur yr Ardteistiméireacht (tystysgrif gadael) yn Llyfrgell Genedlaethol Iwerddon, gan archwilio’r newid yn y testunau, llwyth gwaith darllen, a natur a phwrpas y dulliau asesu.

Dywedodd Ursula ei bod yn hynod falch o’r cyfle i  bontio rhwng maes Addysg a’r Wyddeleg fel pynciau academaidd.