Llwyddiant Boddhad Myfyrwyr

Llwyddiant Boddhad Myfyrwyr

Llwyddiant Boddhad Myfyrwyr

17 Awst 2011

Mae Prifysgol Aberystwyth yn parhau i fod ymysg yr uchaf am foddhad myfyrwyr yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2011.

Cyhoeddwyd canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr heddiw, dydd Mercher 17eg Awst. Gyda sgôr o 4.3 (ar raddfa o 1-5 am foddhad myfyrwyr) mae’n gosod Prifysgol Aberystwyth yn gydradd 4ydd ar gyfer prifysgolion preswyl cyhoeddus yn y DU ac ar y brig ymhlith sefydliadau addysg uwch yng Nghymru am y seithfed flwyddyn yn olynol – cadarnhad fod Aberystwyth yn parhau i fod yn uchel ei barch ymysg ei myfyrwyr.

Cynhelir yr arolwg blynyddol hwn ymysg myfyrwyr israddedig yn eu blwyddyn olaf, a’i nod yw helpu myfyrwyr addysg uwch y dyfodol ynghylch ble a beth i’w astudio.

Mae boddhad cyffredinol Prifysgol Aberystwyth yn parhau yn uchel ar 89%.

Dywedodd yr Athro Martin Jones, Dirprwy Is-Ganghellor: “Dwi’n falch iawn fod Aberystwyth wedi cadw ei lle ymysg sefydliadau blaengar y DU. Serch cyfnod anodd ar gyfer y sector Addysg Uwch yn ddiweddar, mae’n galonogol fod y Brifysgol yn parhau i ateb disgwyliadau myfyrwyr wrth ddarparu profiad addysgol gwych a chyflawn.”

Aeth yr Athro Martin Jones ymlaen i nodi: “Mae’r marciau uchel hyn hefyd yn cael eu trosi i’n proses geisiadau, gyda chynnydd o 16.6% yng ngheisiadau israddedig  2011/12. Mae mwy o ymgeiswyr llwyddiannus hefyd yn derbyn Aberystwyth fel eu dewis cyntaf nag erioed o’r blaen. Yn ogystal, ni fydd Aberystwyth yn rhan o’r broses glirio am yr ail flwyddyn yn olynol gan adlewyrchu’r ffaith fod y Brifysgol yn denu mwy o geisiadau gan ymgeiswyr eithriadol.”

Cafodd myfyrwyr eu holi drwy gwestiynau mewn saith maes: ‘y dysgu ar fy nghwrs’; ‘asesu ac adborth’; ‘cefnogaeth academaidd’; ‘cyfundrefn a rheolaeth’; adnoddau dysgu’; ‘datblygiad personol’ a ‘boddhad cyffredinol’.

Y pynciau dderbyniodd gydnabyddiaeth am berfformiad cryf iawn yn yr arolwg ‘boddhad cyffredinol’, ac yn sgorio 4.5 ac yn uwch ar raddfa o 1-5, oedd:

  • Cyfrifo
  • Addysg
  • Hanes
  • Daearyddiaeth Ddynol
  • Daearyddiaeth Ffisegol
  • Gwleidyddiaeth
  • Gwyddor Chwaraeon
  • Sŵoleg

Y pynciau a berfformiodd yn well o lawer na chyfartaledd y DU am ‘foddhad cyffredinol’, oedd:

  • Cyfrifo
  • Amaethyddiaeth
  • Sinemateg
  • Drama
  • Addysg
  • Daearyddiaeth Ddynol
  • Daearyddiaeth Ffisegol
  • Gwleidyddiaeth
  • Gwyddor Chwaraeon
  • Sŵoleg

Cynhaliwyd yr arolwg gan Ipsos MORI. Ymatebodd 264,514 o fyfyrwyr i’r cwestiynau eleni; cynnydd o dros 12,065 ers y llynedd a graddfa ymateb o 65%.

Mae’r wybodaeth ar gael i fyfyrwyr y dyfodol, rhieni a chynghorwyr o wefan Unistats (www.unistats.com).

AU19911