Llwybr yr Arfordir

Rhan o Lwybr Arfordir Penfro.

Rhan o Lwybr Arfordir Penfro.

08 Medi 2011

Mae Pennaeth yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, Dr Damian Walford Davies yn un o gyd-gyflwynwyr cyfres chwe-rhan uchelgeisiol sydd yn dechrau ar S4C am 9yh nos Lun 12 Medi.

Bydd Llwybr yr Arfordir yn tywys gwylwyr ar daith gyffrous, ddychmygus ar hyd llwybr arfordir Sir Benfro, o Lanrhath yn y de i Landudoch yn y gogledd.

Cyflwynwyr y gyfres gyda Damian yw Jon Gower ac Elinor Gwyn. Maent yn cynnig portread o fywyd ar y ffin awgrymog honno rhwng tir a môr, ac yn troedio ffyrdd dyrys hanes a’r dychymyg.

‘Dyma gyfres sy’n mapio’r llwybr yn ei holl amrywiaeth,’ meddai Damian. ‘Rhannwyd y llwybr byd-enwog hwn yn chwe rhan, a dewisodd y tri ohonom gyflwyno’r straeon hynny a oedd yn ddileit i ni’n bersonol – o feini hirion, ystlumod a thanciau i fôrladron a helwyr morfilod. Cewch brofi’r realiti a’r rhin.’

Ceir mwy o fanylion am y rhaglen ar http://www.s4c.co.uk/ffeithiol/c_llwybr_yr_arfordir.shtml.