Deng mlynedd ers 9/11

Yr Athro Richard Jackson

Yr Athro Richard Jackson

08 Medi 2011

Heddiw, 8 Medi 2011, bydd Richard Jackson, Athro Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn siarad ar y testun Unknown Knowns: The Subjugated Knowledge of Terrorism Studies. Bydd yr Athro Jackson yn un o brif siaradwr yn y gynhadledd Degawd o Derfysgaeth a Gwrthderfysgaeth ers 9/11 a gynhelir ym Mhrifysgol Ystrad Clud a Siambrau Dinas Glasgow.

Wrth sôn am y digwyddiad, dywedodd yr Athro Jackson, “Mae’n bwysig i ni annog agwedd fwy beirniadol wrth ymdrin â mater terfysgaeth, ond yn gyntaf mae angen i ni bwyso a mesur yr hyn sydd eisoes wedi’i gyflawni yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf. Er mwyn gwella astudiaethau o’r fath mae angen dod â gwybodaeth a esgeuluswyd i’r maes, gan ystyried ffurfiau eraill ar wybodaeth megis astudiaethau heddwch. Yn y pen draw bydd hyn yn ein cynorthwyo i gynghori llywodraethau a llunwyr polisi allweddol.”

Richard yw sylfaenydd a golygydd y cyfnodolyn Critical Studies on Terrorism. Ar y cyd â Jeroen Gunning a Marie Breen Smyth, mae Richard Jackson yn gyd-olygydd y gyfres Routledge Critical Terrorism Studies Book Series. Mae hefyd wedi cyhoeddi llawer o lyfrau ac erthyglau ar faterion yn ymwneud â therfysgaeth a datrys anghydfodau rhyngwladol.