Camu ymlaen

Ruth Emily Davey wrth ei gwaith.

Ruth Emily Davey wrth ei gwaith.

30 Medi 2011

Mae’r crydd o Geredigion, Ruth Emily Davey, yn dathlu ar ôl ennill y gystadleuaeth ‘Blwyddyn mewn Uned Greadigol 2011’ sy’n cael ei rhedeg gan Brifysgol Aberystwyth.

Roedd y gystadleuaeth, a oedd yn agored i unigolion neu fusnesau newydd sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol, yn cynnig gofod stiwdio di-rent am flwyddyn yn un o Unedau Creadigol arobryn Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Bydd Ruth, sydd ar hyn o bryd yn gwneud esgidiau â llaw mewn gweithdy bach yn Aberarth, yn gallu manteisio ar ofod stiwdio modern a hyblyg yn un o’r 16 o Unedau Creadigol  sydd i’w cael ar gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth.   

Bydd Ruth yn ymuno â’r Gymuned Greadigol sydd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth - y ganolfan fwyaf o’i bath yng Nghymru, a gafodd ei chydnabod yn 'ganolfan genedlaethol flaenllaw ar gyfer y Celfyddydau' ddechrau mis Medi.

Y gelfyddyd o wneud esgidiau

Dysgodd Ruth ei chrefft fel prentis yng Ngheredigion ac mae ganddi bum mlynedd o brofiad o ddylunio a gwneud esgidiau. Mae’n defnyddio deunydd o ansawdd, ac mae ei hesgidiau ‘siâp traed’, a wneir â llaw yn arbennig ar gyfer y cwsmer, wedi’u cynllunio i bara a chael eu hatgyweirio. Mae’r esgidiau’n cyfuno sgiliau crefft traddodiadol â deunyddiau arloesol ac, yn ogystal â bod yn ddeniadol, un o brif nodweddion y steiliau amrywiol yw eu bod yn gysurus i’w gwisgo. 

Wrth siarad am ei llwyddiant, dywedodd Ruth, “Penderfynais gystadlu gan feddwl y byddai’n gyfle gwych i ddatblygu fy musnes mewn cymuned o artistiaid eraill yng Nghanolfan y Celfyddydau. Ni allwn fod wedi ennill y gystadleuaeth ‘Blwyddyn mewn Uned Greadigol’ ar adeg well; bydd yn gam mawr ymlaen cael datblygu fy musnes mewn awyrgylch celfyddydol bywiog a chyfoes. Rwyf wrth fy modd.”

Dywedodd Alan Hewson, Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu Ruth i’w huned newydd. Mae’r wobr ‘Blwyddyn mewn Uned’ wedi bod yn ffordd ardderchog i roi cyfle i gwmnïau creadigol newydd i ddatblygu eu busnes mewn amgylchedd cefnogol – mae’r ffaith bod ein henillwyr blaenorol wedi dewis gweithio yn eu hunedau yn barhaol yn brawf o lwyddiant y prosiect.”   

Trefnwyd cystadleuaeth ‘Blwyddyn mewn Uned Greadigol’ gan y Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori, a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ym Mhrifysgol Aberystwyth.

AU23811