‘The Great Debt Shuffle’

Robert Peston.

Robert Peston.

25 Hydref 2011

Bydd Robert Peston, Golygydd Busnes y BBC, yn traddodi darlith ar y pwnc “The Great Debt Shuffle” yn Ysgol Rheolaeth a Busnes Prifysgol Aberystwyth ar nos Iau 27 Hydref.

Mae’r ddarlith yn nodi dechrau dathliadau canrif o Economeg fel pwnc ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

Cafodd Robert Peston gryn gydnabyddiaeth am ei waith yn ystod argyfwng bancio Northern Rock ac mae wedi ennill nifer o wobrau am ei newyddiaduraeth gan gynnwys Newyddiadurwr y Flwyddyn, Newyddiadurwr Arbenigol y Flwyddyn a Sgŵp y Flwyddyn (dwywaith) gan y Gymdeithas Deledu Frenhinol, Perfformiwr y Flwyddyn gan Urdd Y Wasg Ddarlledu, a Darlledwr y Flwyddyn a Newyddiadurwr y Flwyddyn gan y Wincott Foundation.

Cyn ymuno gyda’r BBC roedd yn olygydd gwleidyddol a golygydd ariannol gyda’r Financial Times, Golygydd y Ddinas  ar y Sunday Telegraph ac yn golofnydd gyda’r New Statesman a’r Sunday Times.

Mae hefyd yn awdur dau lyfr, Brown’s Britain a Who Runs Britain and Who’s to Blame for the Economic Mess We’re in.
Cafodd ei urddo yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth ym mis Gorffennaf 2011.

Mae’r ddarlith yn agored i staff a myfyrwyr y Brifysgol a caiff ei chynnal am 7.30yh yn C22 Adeilad Hugh Owen, Prifysgol Aberystwyth.

AU26011