Cefnogi Chwaraeon

02 Tachwedd 2011

Heddiw, dydd Mercher 2 Tachwedd, bydd aelodau o Uwch Dîm Rheoli Prifysgol Aberystwyth yn ymuno â chynrychiolwyr o Urdd y Myfyrwyr ac yn cefnogi eu myfyrwyr wrth iddynt gystadlu mewn amrywiaeth o gampau.

Dydd Mercher, bydd y Brifysgol yn cynnal 18 o gemau rhwng Aberystwyth a 10 o wahanol Brifysgolion, a drefnwyd fel rhan o Gynghrair Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain. Bydd y myfyrwyr yn cystadlu mewn amrywiaeth o gampau, o Gleddyfaeth i Bêl-droed ac o Fadminton i Bêl-fasged, mewn lleoliadau ledled y Campws ac yn y dre, ac mae’r Brifysgol a’r Urdd yn mawr obeithio y bydd y timau cartref yn llwyddiannus yn nifer o’r gemau.

“Mae’n hyfryd gweld cymaint o dimau’n cystadlu gartref heddiw”, meddai Alun Minifey, Swyddog Gweithgareddau Urdd y Myfyrwyr, Aberystwyth. “Mae’n draddodiad cadw prynhawn dydd Mercher yn rhydd ar gyfer gweithgareddau chwaraeon, ac rydym yn awyddus iawn i’r traddodiad hwn barhau fel bod cymaint o fyfyrwyr â phosib yn gallu elwa o’r llu o fanteision sy’n gysylltiedig â champau tîm a champau unigol”.

“Mae’n wych bod yr Uwch Dîm Rheoli wedi gallu ymuno â ni i gefnogi ein timau heddiw.”

Yn ogystal â gwylio ambell gêm, bydd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, hefyd yn cychwyn gêm Pêl-fasged rhwng timau menywod Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Caerdydd.

Dywedodd yr Athro McMahon: “Rwy’n falch iawn fy mod yn gallu rhoi cefnogaeth i’n myfyrwyr yn ystod eu gweithgareddau chwaraeon. Mae bywyd Prifysgol yn fwy o lawer na gradd yn unig, mae’n ymwneud hefyd â datblygu sgiliau ein myfyrwyr i sicrhau eu bod yn barod am ba bynnag yrfa y maent yn ei ddewis ar ôl graddio. Mae bod yn aelod o dîm, uchelgais ac ymroddiad oll yn sgiliau y medrir eu trosglwyddo, ac maent yr un mor bwysig ym myd y campau ag yr ydynt i ddarpar gyflogwr.

“Rwy’n dymuno'n dda i’r holl dimau a fydd yn cymryd rhan prynhawn yma, ac rwy’n estyn croeso cynnes iawn i’r myfyrwyr o’r amrywiol brifysgolion sy’n cystadlu i Aberystwyth. Rwy’n siŵr y byddant yn falch o weld yr ystod o adnoddau o ansawdd uchel sydd ar gael iddynt yn ein Prifysgol.”

Bydd yr 18 gornest yn cynnwys gemau Badminton, Pêl-fasged, Cleddyfaeth, Pêl-droed, Hoci, Pêl-rwyd, Rygbi Undeb, Sboncen a Thennis. Mae’r Prifysgolion sy’n ymweld ag Aberystwyth yn cynnwys Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd, Prifysgol Swydd Gaerloyw, Prifysgol Fetropolitan Abertawe, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Caerfaddon, Prifysgol Gorllewin Lloegr, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Bournemouth, Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Bryste.