‘Y Camau Nesaf i Ddatganoli: Gwleidyddiaeth a Chyllid’

Y Prifweinidog Carwyn Jones.

Y Prifweinidog Carwyn Jones.

09 Tachwedd 2011

Mae’n bleser gan Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru groesawu’r Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru, i draddodi ei 12fed Darlith Flynyddol, a hynny nos Lun 14eg o Dachwedd 2011. Teitl y ddarlith fydd ‘Next Steps for Devolution: Politics Plus Finance’.

Ganed Carwyn Jones yn 1967 a chafodd ei Addysg yn Ysgol Gyfun Brynteg, Pen-y-bont ar Ogwr, ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ac yn Ysgol y Gyfraith Ysbytai’r Frawdlys yn Llundain.
Cyn cael ei ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999, bu’n fargyfreithiwr yn Abertawe; arbenigai mewn Cyfraith Droseddol, Teuluol a Niwed Personol. Roedd hefyd yn diwtor proffesiynol yn Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Caerdydd.

Bu’n Gynghorydd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac yn Gadeirydd Grŵp Llafur y Cyngor. Mae hefyd yn aelod o Amnest Rhyngwladol, Unsain, Undeb Unite a Chymdeithas y Ffabiaid.

Mae wedi bod yn aelod o’r Blaid Lafur ers 1987 a chwaraeodd ran amlwg yn ymgyrch ‘Ie dros Gymru’ Refferendwm 1997.

Cafodd Carwyn Jones ei benodi’n Is-Ysgrifennydd ym mis Mawrth 2000 a disodlodd Christine Gwyther fel yr Ysgrifennydd Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig yng Ngorffennaf 2000. Ym mis Mawrth 2002, ychwanegwyd rôl y Trefnydd at ei bortffolio Materion Gwledig, ac ym Mehefin 2002, daeth hefyd yn Weinidog dros Lywodraeth Agored.

Ym Mai 2003, fe’i penodwyd yn Weinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad. Ym Mai 2007, daeth yn Weinidog Addysg, Diwylliant a’r Iaith Gymraeg. O Orffennaf 2007 ymlaen ef oedd Cwnsler Cyffredinol cyntaf Cymru ac Arweinydd y Tŷ.

Yn dilyn ymddeoliad Rhodri Morgan AC ym mis Rhagfyr 2009, ac wedi iddo sicrhau buddugoliaeth yn y gystadleuaeth am arweinydd ei blaid, cafodd ei benodi fel Prif Weinidog Cymru.  Fe’i penodwyd i’r Cyfrin Gyngor ar y 9fed o Fehefin 2010.

Wrth edych ymlaen at y ddarlith, dywedodd Yr Athro Roger Scully, Cyfarwyddwr Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, ei fod  ‘yn hynod falch fod Carwyn Jones wedi cytuno i draddodi Darlith Flynyddol Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yn 2011.”

“Nid yn unig cawn yma arweinydd a arweiniodd ei blaid i’w canlyniad cryfaf erioed mewn etholiad i’r Cynulliad Cenedlaethol, ond dyma hefyd Brif Weinidog y cyfnod pwysicaf ac anoddaf i’r Cynulliad. Ef fydd yn gorfod arwain Cymru drwy gyfnod o galedi ariannol na welwyd ei debyg ers datganoli, a thrwy gyfnod o ddatblygiad pellach parhaus i ddatganoli ac esblygiad perthynas Cymru a gweddill y DG.”

“Edrychwn ymlaen yn eiddgar i glywed beth fydd ganddo i’w ddweud am y materion hyn”.

Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru
Mae Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yn ganolfan ymchwil annibynnol ac amhleidiol o fewn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. Fe’i sefydlwyd i hybu astudiaeth academaidd a dadansoddiad ar bob agwedd o wleidyddiaeth Cymru. Gan adlewyrchu ei gartref o fewn Adran Cysylltiadau Rhyngwladol hynaf y byd, mae gwaith y Sefydliad yn cynnwys astudiaeth o’r prosesau gwleidyddol o fewn Cymru ond hefyd gysylltiadau gwleidyddol ac economaidd-wleidyddol Cymru â Phrydain, Ewrop, a gweddill y byd.

Hon yw deuddegfed Darlith Flynyddol Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru. Mae’r siaradwyr blaenorol wedi cynnwys dau Brif Ysgrifennydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Alun Michael AS a Rhodri Morgan AC, yn ogystal ag Ieuan Wyn Jones AC, Yr Arglwydd Griffiths o Fforestfach, Syr Simon Jenkins, yr Athro Tom Nairn, Yr Athro Robert Hazell, Yr Athro Michael Keating, Kirsty Williams AC., Huw Lewis AC., ac Adam Price AS.

AU26611