“A Pursuit of a Europe, Whole and Free”

Mr Bruce Pitcairn Jackson.

Mr Bruce Pitcairn Jackson.

24 Tachwedd 2011

Mae Canolfan Astudiaethau Ewropeaidd Prifysgol Aberystwyth yn falch iawn o gael croesawu Mr Bruce Pitcairn Jackson, sefydlwr a Llywydd y Prosiect Democratiaethau Trosiannol, i draddodi darlith gyhoeddus am 4 y prynhawn, ddydd Mercher 30 Tachwedd 2011 ym Mhrif Neuadd Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Bydd yr anerchiad, “A Pursuit of a Europe, Whole and Free” yn ystyried sut mae Ewrop wedi newid ar ôl 1989, yn bennaf oherwydd syniadau dramodwyr, trydanwyr ac ymgyrchwyr gwleidyddol. Bydd yn gofyn pwy oedd yr unigolion hyn? Beth oedd eu syniadau? A sut ar y ddaear y llwyddasant i drefnu’r trawsnewid a ddaeth i Ewrop ar ôl y Rhyfel Oer?

Bu Bruce Pitcairn Jackson yn Swyddog Cudd-wybodaeth Filwrol ym Myddin yr Unol Daleithiau. O 1986 hyd 1900, fe fu’n gweithio yn Swyddfa’r Ysgrifennydd Amddiffyn ar amrywiaeth o swyddi polisi yn ymwneud â grymoedd niwclear a rheoli arfau.

Wedi iddo adael yr Adran Amddiffyn yn 1990, ymunodd Mr Jackson â Lehman Brothers, sef banc buddsoddi yn Efrog Newydd, lle y bu’n strategydd yng ngwaith masnachu perchnogol y cwmni. Rhwng 1993 a 2002, roedd Mr Jackson yn Is-Lywydd Strategaeth a Chynllunio yng Nghorfforaeth Lockheed Martin.

Yn ystod 1995 a 1996, roedd Mr. Jackson yn Gyd-gadeirydd Cenedlaethol Pwyllgor Ariannol Ymgyrch Arlywyddol Dole. Yn 1996, roedd yn ddirprwy i Gonfensiwn Cenedlaethol y Gweriniaethwyr, lle bu’n gwasanaethu ar Bwyllgor y Llwyfan ac is-bwyllgor y Llwyfan ar Ddiogelwch Cenedlaethol a Pholisi Tramor.

Yn ystod Ymgyrch Arlywyddol 2000 roedd yn ddirprwy o blaid y Llywodraethwr Bush ac yn gadeirydd ar Is-bwyllgor Polisi Tramor i Bwyllgor Llwyfan y Gweriniaethwyr. O 1995 hyd 2003, roedd yn Llywydd Pwyllgor UDA yn NATO, sef corfforaeth ddielw a sefydlwyd yn 1996 i hybu tŵf NATO ac i atgyfnerthu’r cysylltiadau rhwng yr Unol Daleithiau ac Ewrop.

Yn 2004, daeth Mr. Jackson yn aelod o’r Comisiwn Rhyngwladol ar y Balcanau ac o Fwrdd Cyfarwyddwyr Sefydliad "We Remember", sy’n gweithio i ddwyn swyddogion Llywodraeth Belarus o flaen eu gwell am eu rhan yn niflaniad arweinwyr mudiadau gwleidyddol gwrthwynebus a newyddiadurwyr.

Mae wedi cael cydnabyddiaeth am ei waith ar newid democrataidd ac integreiddio Ewropeaidd gan Lywodraethau Gwlad Pwyl, y Weriniaeth Tsiec, Hwngari, Romania, Lithwania, Latfia ac Estonia.

Mae gwaith diweddaraf Mr. Jackson yn canolbwyntio ar gyflymu prosesau integreiddio gwledydd Gorllewinol y Balcanau a Thwrci i’r Undeb Ewropeaidd a NATO ac ar feithrin perthynas agosach rhwng sefydliadau a democratiaethau Ewropeaidd o fewn Partneriaeth Ddwyreiniol yr Undeb Ewropeaidd, yn enwedig yr Wcráin.

Mae wedi ysgrifennu’n helaeth am sut mae’r Undeb Ewropeaidd a’r Unol Daleithiau yn ymwneud â Rwsia a democratiaethau Dwyrain Ewrop, ar geo-economegau newydd Dwyrain Ewrop a rhanbarth y Môr Du, ac ar ddiogelu cyflenwadau ynni Ewrop.

Archebu Lle yn y Digwyddiad
Os hoffech ddod i’r digwyddiad hwn, cewch archebu drwy  ddilyn y ddolen gyswllt hon â Facebook http://www.facebook.com/event.php?eid=200629700004817

Y Prosiect Democratiaethau Trosiannol
Menter hirdymor yw’r Prosiect a’r nod yw cyflymu’r diwygiadau yn y democratiaethau a sefydlwyd er 1989, ac i annog integreiddio’r democratiaethau hyn i sefydliadau Ewropeaidd a thraws Môr Iwerydd cyn gynted ag y bo modd.
                    
Y Ganolfan Astudiaethau Ewropeaidd
Mae’r Ganolfan Astudiaethau Ewropeaidd yn ganolfan ddysg drawsadrannol ac amlddisgyblaethol a yrrir gan ymchwil, sy’n canolbwyntio ar astudio integreiddio Ewropeaidd pellach a chysylltiadau Ewrop â gweddill y byd. Fe’i sefydlwyd yn 1996 ac fe ddaeth yn un o Ganolfannau Rhagoriaeth Jean Monnet yn 2000 ar ôl cael cydnabyddiaeth swyddogol gan yr Undeb Ewropeaidd. Yn ddiweddar enillodd y Ganolfan Gadair Jean Monnet mewn Astudiaethau Ewropeaidd.

Dyma’r pedwerydd digwyddiadau cyhoeddus a drefnwyd gan y Ganolfan Astudiaethau Ewropeaidd i 2011; mae siaradwyr blaenorol yn cynnwys Mr Andy Klom, Pennaeth y Comisiwn Ewropeaidd i Gymru, Dr Kay Swinburne ASE a Mr Derek Vaughn ASE.

AU28111