Barddoniaeth gwragedd

Dr Sarah Precott.

Dr Sarah Precott.

02 Chwefror 2012

Mae’r academydd o Brifysgol Aberystwyth, Dr Sarah Prescott, wedi derbyn Grant Prosiect Ymchwil gwerth £248,395 oddi wrth Ymddiriedolaeth Leverhulme am astudiaeth o “Farddoniaeth Gwragedd rhwng 1400 – 1800 mewn Saesneg, Gwyddeleg, Sgoteg, Gaeleg yr Alban, a Chymraeg”.

Mae Dr Prescott yn Ddarllenydd yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, ac yn Gyfarwyddwr ar y Ganolfan Ysgrifennu Benywaidd a Diwylliant Llenyddol.

Bydd hi’n gweithio gydag ymchwilwyr eraill ym Mhrifysgol Caeredin, Prifysgol Genedlaethol Iwerddon, Galway, a’r Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ar y prosiect tair blynedd.

Bydd yr astudiaeth hon yn darparu hanes llenyddol newydd o farddoniaeth gwragedd yn Iwerddon, Yr Alban a Chymru o 1400 hyd at 1800, gan gynnwys barddoniaeth yn y Gymraeg, Gaeleg yr Alban, Scoteg, a Saesneg mewn blodeugerdd wedi’i golygu a fydd yn cynnwys cyfieithiadau ac astudiaeth feirniadol wedi’i ysgrifennu ar y cyd gan arbenigwyr sy’n ymwneud â’r prosiect.

“Mae’r ugain mlynedd diwethaf wedi gweld cynnydd aruthrol yn niddordeb pobl mewn ysgrifennu gwragedd Prydeinig cyn 1800,” dywedodd Dr Prescott. “Fodd bynnag, nid oes eto astudiaeth gymharol o farddoniaeth fenywaidd sy’n croesi ffiniau ieithyddol a chenedlaethol yn ystod y cyfnod hwn.”

“Mae hyn y bennaf oherwydd mai prin yw’r ysgolheigion sydd a chanddynt y gallu ieithyddol cymwys i gyflawni’r fath astudiaeth, a sydd hefyd yn coleddu diddordeb mewn ysgrifennu benywaidd ar draws y cyd destunau Saesneg, Gwyddeleg, Scoteg, Gaeleg yr Alban, a Chymraeg; ond y mae hefyd yn ganlyniad i’r gagendor rhwng methodolegau astudiaethau Celtaidd ac astudiaethau Saesnig.”

“Prif nod y prosiect yw croesi’r ffiniau ieithyddol a methodolegol hyn er mwyn deall am y tro cyntaf sut y gweithredodd ac y goroesodd y broses farddonol fenywaidd mewn amrywiol leoliadau daearyddol a chyd-destunau ieithyddol a diwylliannau cymharol,” ychwanegodd.

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar ddau brif faes: y broses o adeiladu archif o farddoniaeth  fenywaidd (a bydd llawer o’i gynnwys yn destunau heb eu hastudio a heb eu darganfod), a dehongli’r gweithiau er mwyn iddynt gael eu darllen gan gynulleidfa ehangach. 

Astudiaethau’r ddeunawfed ganrif yw prif ddiddordebau ymchwil Dr Prescott ac maent yn cynnwys barddoniaeth a ffuglen fenywaidd, ysgrifennu Cymreig yn y Saesneg, ysgrifennu benywaidd yng Nghymru, awduriaeth, hanes lenyddol ffeminyddol a diwylliannau llenyddol taleithiol.

Mae ei llyfrau’n cynnwys Eighteenth-Century Writing from Wales: Bards and Britons (Gwasg Prifysgol Cymru 2008, ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Roland Mathias ar gyfer Ysgrifennu Cymreig yn y Saesneg yn 2009), Women, Authorship, and Literary Culture, 1690-1740 (Palgrave Macmillan, 2003) a Women and Poetry, 1660-1750 (Palgrave Macmillan, 2003). Bwriedir cyhoeddi ei chyfrol ddiweddaraf, Writing Wales from the Renaissance to Romanticism (Ashgate), a gyd-olygwyd gan Stewart Mottram, yn 2012.


Ymddiriedolaeth Leverhulme
Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Leverhulme yn 1925 dan Ewyllys y Isiarll cyntaf Leverhulme. Hon yw un o’r cyllidwyr mwyaf ar gyfer ymchwil ar bob pwnc yn y DU, gan ddosbarthu cyllid o oddeutu £60 miliwn yn flynyddol. Am fwy o wybodaeth am gynlluniau a ariennir gan Ymddiriedolaeth Leverhulme, cliciwch ar eu gwefan:
www.leverhulme.ac.uk   www.twitter.com/LeverhulmeTrust     

AU0512