Tystiolaeth i’r Comisiwn Silk

26 Mawrth 2012

Bydd criw o fyfyrwyr o’r Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol yn cyflwyno tystiolaeth i’r Comisiwn Silk, y Comisiwn Datganoli yng Nghymru, ddydd Mawrth y 27ain o Fawrth.

Mae’r sesiwn gyflwyno tystiolaeth yn rhan o gyfres o gyfarfodydd tebyg a gynhelir ar draw Gymru benbaladr i drafod a ddylai Llywodraeth Cymru gael grymoedd addasu trethi a benthyca.

Bydd y sesiwn ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael ei chynnal ym Mhrif Neuadd yr Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ac yn mynychu y bydd y criw o fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg israddedig ac uwchraddedig o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Meddai Dr Elin Royles, Darlithydd mewn Gwleidyddiaeth Cymru yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Brifysgol; “Wrth i’r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru adolygu’r achos dros ddatganoli pwerau cyllidol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, mae wedi casglu tystiolaeth ysgrifenedig a nawr yn casglu tystiolaeth ar lafar.

Bydd myfyrwyr o’r Adran yn cyflwyno eu barn i’r Comisiwn ar sail eu hastudiaethau a gweithdy a gynhaliwyd gyda staff i drafod  materion llosg sy’n ymwneud â gwella atebolrwydd ariannol, datganoli grymoedd trethi a benthyca.

Mae’r myfyrwyr wedi astudio modiwlau ar wleidyddiaeth Cymru yn ystod eu cwrs prifysgol, ac mae’r Adran yn credu’n gryf mewn gwella cyflogadwyedd ei myfyrwyr drwy gynnig pob math o gyfleoedd dysgu amgen iddynt yn ystod eu cyfnod yma.

Mae’r sesiwn o gynnig tystiolaeth i Gomisiwn Silk yn gyfle unigryw arall iddynt ddatblygu’r hyn a ddysgwyd mewn darlithoedd a seminarau a gwneud yn fawr o’r cyfleoedd sy’n dod fel rhan o’r dysgu cyfrwng Cymraeg o fewn yr Adran.”

Croesawodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, ymweliad y Comisiwn, gan ddweud; “Mae’n hanfodol fod myfyrwyr Aberystwyth yn cael y cyfle i ymwneud â’r trafodaethau gwleidyddol a chymdeithasol cyfoes yn y byd o’u cwmpas, ac i roi adborth ar bynciau trafod allweddol. Dwi’n falch o gael croesawi’r Comisiwn Silk ar eu hymweliad â’n Prifysgol ni.”

Yn hwyrach ar yr un diwrnod, bydd y Comisiwn Silk yn cynnal cyfarfod cyhoeddus yn Y DRWM, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth rhwng 6:30 ac 8yh.

Gwahoddir aelodau o’r cyhoedd i ddod i glywed mwy am waith y Comisiwn, i gymryd rhan mewn trafodaeth ar lun patrwm Question Time, ac i gyflwyno eu syniadau am ddyfodol ariannol Cymru.

Bydd y panel yn cynnwys Cadeirydd y Comisiwn, Paul Silk, y Comisiynydd Eurfyl ap Gwilym, y Llyfrgellydd Cenedlaethol Andrew Green a’r Athro Roger Scully o Brifysgol Aberystwyth. Bydd y sesiwn yn cael ei chadeirio gan gyn Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Noel Lloyd.

Dywedodd Paul Silk, Cadeirydd y Comisiwn: “Mae clywed barn pobl ar hyd a lled Cymru yn beth hanfodol i ni fel Comisiwn a byddant yn gymorth i lywio ein myfyrdodau. Yr ydym wedi dweud ers ein sefydlu ei bod hi’n fwriad gennym i ymwneud â chymaint o bobl ag sy’n bosibl a bydd y digwyddiadau hyn yn gymorth inni wneud hynny.”

AU8912