Iechyd byd-eang

09 Mai 2012

Bydd ymchwilwyr o'r Ganolfan Iechyd a Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn adolygu a thrafod sut mae globaleiddio yn newid patrymau byd-eang o iechyd ac afiechyd yn Chatham House yn Llundain ddydd Gwener yma (11 Mai).

Disgwylir i gyfarfod Chatham House gael ei fynychu gan academyddion o fri a phobl sy’n ymwneud â pholisi o'r DG, Ewrop, yr Unol Daleithiau ac Affrica.

Hwn fydd y cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau a fydd yn cyflwyno canfyddiadau gwaith prosiect pedair blynedd a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd.

Mae’r prosiect wedi cymryd ymagwedd arloesol tuag at yr astudiaeth o lywodraethu iechyd byd-eang (GHG) a'r ffyrdd y mae cystadleuaeth rhwng syniadau am iechyd yn effeithio ar bolisi.

Arweinir y tîm gan yr Athro Colin McInnes o Brifysgol Aberystwyth a'r Athro Kelley Lee o Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain (LSHTM). Mae Dr Simon Rushton a Dr Owain Williams, hefyd o Aberystwyth, wedi bod yn chwarae rhan bwysig iawn yn yr ymchwil.

Eglurodd yr Athro McInnes, "Yr ydym wedi bod yn archwilio'r gofod polisi hwn gyda'r nod o ddeall ac esbonio’n well pam fod cynnydd effeithiol ar lywodraethu iechyd byd-eang wedi bod mor anodd.

"Yr ydym wedi dangos sut y mae gweledigaethau gwahanol o fuddiannau iechyd  yn goleuo a mesur ffyrdd o ymateb. Mae'r gweledigaethau cystadleuol hyn yn gwneud llywodraethu iechyd byd-eang yn faes gwleidyddol sensitif sydd wedi’i nodweddu gan gystadleuaeth yn ogystal â chydweithrediad."

Bydd pedwar mater iechyd byd-eang cyfoes yn cael eu harchwilio yn y digwyddiad yn Chatham House: argaeledd meddyginiaethau, rheoli tybaco, ffliw pandemig a HIV / AIDS.

Bwriad Chatham House yw bod yn ffynhonnell fyd eang o ddadansoddiad annibynnol, trafodaeth wybodus a syniadau dylanwadol ar sut i adeiladu byd ffyniannus a diogel i bawb. Sefydlwyd Chatham House yn 1920 ac mae wedi ei leoli yn St James Square, Llundain.

AU13512