Diwrnod Ewrop
11 Mai 2012
Fel rhan o ddathliadau Diwrnod Ewrop yr wythnos hon, mae staff a myfyrwyr yng Nghanolfan Astudiaethau Ewropeaidd Prifysgol Aberystwyth wedi trefnu Diwrnod HwylEwro yfory (12 Mai) a fydd yn agored i'r cyhoedd.
Mae mynediad i'r digwyddiad am ddim a bydd yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau yn amrywio o stondinau bwyd Ewropeaidd a chyngherddau cerddorol i arddangosfa ffotograffiaeth a pherfformiadau o ffilmiau Ewropeaidd.
Bydd yr arddangosfa’n cynnwys lluniau a dynnwyd gan bobl a fu’n cystadlu mewn cystadleuaeth i dynnu llun o’i argraffiadau nhw o Ewrop yn y cyfnod oedd yn arwain at y Diwrnod HwylEwro.
Bydd yr enillwyr yn derbyn eu gwobr gan Is-ganghellor y Brifysgol, yr Athro April McMahon, ac Antonia Mochan, cynrychiolydd y Comisiwn Ewropeaidd yn y DG.
Fe fydd dau berfformiad o gerddoriaeth fyw gan y grŵp lleol Chocolat, yn ogystal â pherfformiad dawns a pherfformiad rhad am ddim o’r ffilm La Vita e Bella yn sinema Canolfan y Celfyddydau (rhaglen o ddigwyddiadau isod).
Cynhelir y digwyddiad yma yn y Neuadd Fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau o 10am - 3.30pm, ac cheir rhagor o wybodaeth ar wefan y Brifysgol: http://www.aber.ac.uk/en/ces/new-events/eurofun/
Rhaglen Ddigwyddiadau
10:00-10.15 Agoriad Swyddogol (gyda lluniaeth ysgafn)
10.15-12.00 Clipiau Ewropeaidd byr a pherfformiad rhad ac am ddim o’r ffilm La Vita e Bella yn sinema Canolfan y Celfyddydau
11:00-12.00 Cyngerdd gan y grŵp cerddoriaeth lleol Chocolat
13:00-14.00 Annerchiad gan yr Athro April McMahon, Is-ganghellor y Brifysgol, ac Antonia Mochan, cynrychiolydd y Comisiwn Ewropeaidd yn y DG, ac yna’r gwobrwyo.
14:00-14.30 Perfformiad yn rhad ac am ddim gan grŵp dawns Prifysgol Ewrop
14.30-15.30 Cyngerdd gan y grŵp cerddoriaeth lleol Chocolat
AU14712