Wythnos Cychwyn Busnes
Rheolwr Menter Prifysgol Aberystwyth, Tony Orme.
17 Mai 2012
Ydych chi erioed wedi meddwl tybed a oes gennych yr hyn sydd ei angen i droi syniad busnes yn realiti? A oes gennych syniad cyfnod cynnar yr hoffech ei ymchwilio ymhellach? Os felly, bydd Wythnos Cychwyn Busnes Prifysgol Aberystwyth at eich dant!
Mae’r gweithdai hyn yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb (gan gynnwys staff, myfyrwyr a graddedigion Prifysgol Aberystwyth) - ac fe’u cynhelir ar gampws Penglais rhwng dydd Llun 28 Mai a dydd Gwener 1 Mehefin.
Os ydych yn awyddus i ddatblygu syniad busnes, neu am ddatblygu’ch sgiliau entrepreneuraidd, bydd y gweithdai amrywiol a gynigir fel rhan o’r Wythnos Cychwyn Busnes yn darparu awgrymiadau, cyngor ac arweiniad ymarferol gan entrepreneuriaid lleol, cynghorwyr busnes a staff menter y Brifysgol.
“Mae rhaglen yr wythnos yn cynnig trosolwg o’r prif faterion i’w hystyried wrth ddatblygu syniad drwy’r broses cynllunio busnes” esboniodd Tony Orme, Rheolwr Menter, Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori Prifysgol Aberystwyth.
“Un o fanteision eraill dod i’r Wythnos Cychwyn Busnes yw ei fod yn gyfle i gyfarfod ag entrepreneuriaid eraill o’r un anian, ac i adeiladu rhwydwaith cefnogi i’w ddefnyddio wrth ddatblygu’ch syniad busnes”.
Bydd y gweithdai’n trafod ystod o themâu, gan gynnwys: Rhwydweithio; Ymchwil y Farchnad; Marchnata; Marchnata Digidol; Cynllunio Ariannol, Costio a Phrisio; Rheoli Ariannol; Treth a Materion Gweithredol.
Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer yr Wythnos Cychwyn Busnes ewch i: www.aber.ac.uk/crisalis
Beth am ymuno â’n tudalen facebook i weld y newyddion diweddaraf a chyfleoedd cychwyn busnes? – Chwiliwch am 'Aberystwyth University Enterprise Network'
AU16312