Teyrnged Olympaidd i Turing
Yr Athro Qiang Shen
29 Mai 2012
Mae gwyddonydd blaengar ym maes cyfrifiadureg wedi datgan fod ei gymal ef o’r daith gyfnewid i’r Fflam Olympaidd yn deyrnged i dad cyfrifiadureg fodern, Alan Turing.
Cludodd yr Athro Qiang Shen, Pennaeth Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth, y ffagl trwy gyrion y dref ar ddydd Sul 27ain o Fai, wrth i’w gydweithwyr, ei fyfyrwyr, a’r cyhoedd ei gymeradwyo.
Yn fuan wedyn, croesawodd dros 8000 o bobl y Ffagl i Gaeau’r Ficerdy, caeau chwarae’r Brifysgol, wrth iddi gwblhau ei thaith o Abertawe i Aberystwyth.
Wedi iddo gwblhau ei gymal, dywedodd yr Athro Shen: “2012 yw canmlwyddiant genedigaeth Alan Turing, sylfaenwr cyfrifiadureg fodern a deallusrwydd artiffisial, ac un o ffigyrau amlwg yr ymgais i dorri codau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yr oedd hi’n anrhydedd fawr imi gael fy newis i gludo’r Ffagl Olympaidd ac i ddatgan fod fy nghymal i o’r daith yn deyrnged er cof amdano.”
“Creodd Turing un o’r cynlluniau cyntaf ar gyfer cyfrifiadur a chanddo raglenni wedi’u storio, a gosododd feini sylfaen ym myd Dealltwriaeth Artiffisial. Mae’r cyflawniadau hyn wedi arwain at y byd cyfrifiadurol rydym yn byw ynddo heddiw, ac wedi braenaru’r tir ar gyfer y math ar ymchwil sy’n mynd â’n bryd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Uwchlaw hyn oll, y mae ei waith wedi bod yn ysbrydoliaeth i genedlaethau o wyddonwyr a pheirianwyr.”
“Yr oedd hefyd yn bleser cael dathlu’r hyn a gyflawnwyd gan fy nghydweithwyr a’r myfyrwyr yn yr Adran a’r Brifysgol a chyda’r gymuned leol,” ychwanegodd.
Roedd yr Athro Shen yn un o bedwar cynrychiolydd o’r Brifysgol a fu’n cludo’r Ffagl Olympaidd.
Cyflwynwyd y Ffagl i Bridget James, aelod o staff Canolfan Chwaraeon y Brifysgol, ar risiau blaen Llyfrgell Genedlaethol Cymru wrth iddi adael Aberystwyth ar ddydd Llun 28 Mai, tra cymerodd y myfyrwyr Susanna Ditton, o’r Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, a Shon Rowcliffe o’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, ran ar ddydd Sul.
AU17912