Cyswllt Celtaidd

Yr Athro Martin Jones yng Ngholeg Galwedigaethaol Enniscorthy.

Yr Athro Martin Jones yng Ngholeg Galwedigaethaol Enniscorthy.

06 Mehefin 2012

Myfyrwyr a darlithwyr Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu fydd y cyntaf i elwa o Femorandwm o Ddealltwriaeth a arwyddwyd gan Brifysgol Aberystwyth a Choleg Galwedigaethol Enniscorthy (EVC), Swydd Wexford, Iwerddon.

Arwyddwyd y cytundeb tair blynedd ar ddydd Iau 31ain Mai 2012 gan yr Athro Martin Jones, y Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Cyfranogiad a Chydweithrediad ym Mhrifysgol Aberystwyth, Mr Liam Sharkey, Pennaeth Cynhyrchu Cyfryngau yng Ngholeg Galwedigaethol Enniscorthy ac alumnus o Aberystwyth, a Mr Morgan Dunne, Pennaeth Bwrdd Rheoli’r Coleg.

Yn ôl telerau’r gytundeb bydd staff o’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn Aberystwyth yn cydweithio’n agos â chydweithwyr yng Ngholeg Enniscorthy i ddatblygu’r cwricwlwm yno, gan ganolbwyntio’n benodol ar Gyrsiau Addysg Bellach a Gwobrau Cyngor Hyfforddi Lefel 6.

Unwaith y bydd rhain yn eu lle, bydd cyfle i fyfyrwyr Enniscorthy sydd wedi cyflawni’r cwrs hyd at lefel 6 gamu ymlaen i ail flwyddyn rhaglen radd berthynol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bydd myfyrwyr Enniscorthy hefyd yn derbyn cynigion mynediad amodol ar gyfer graddau perthnasol ym Mhrifysgol Aberystwyth, cyd â’u bod yn cyflwyno’u ffurflenni cais trwy UCAS erbyn y dyddiad cau, sef y 15fed o Ionawr.

Mae’r Memorandwm yn adeiladu ar y cysylltiadau sy’n bodoli eisoes rhwng y ddau sefydliad sydd wedi arwain nifer o fyfyrwyr o Enniscorthy i astudio am raddau yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Darpara’r Memorandwm o Ddealltwriaeth hefyd ar gyfer staff sy’n gweithio mewn meysydd penodol o lefelau 5-6 o’r cwricwlwm yn Enniscorthy gyfle i astudio am ddim ar gyfer gradd ôl raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dywedodd yr Athro Martin Jones, y Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Cyfranogiad a Chydweithrediad ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Dyma gyfle gwych i ddau sefydliad Celtaidd i gydweithio ar gytundeb fydd yn gweld myfyrwyr o Iwerddon yn cael parhau â’u haddysg gydag un o’n hadrannau gorau ym Mhrifysgol Aberystwyth.  

Mae datblygu cytundebau partneriaeth rhyngwladol yn amcan strategol canolog i’n Prifysgol, ac yr ydym wrth ein boddau ein bod yn cydweithio ag Enniscorthy ar y fath weithgaredd cyffrous.  Edrychwn ymlaen at gael cadarnhau ein perthynas gyda’n cydweithwyr Celtaidd yn fwyfwy, gan ddarparu cyfleodd datblygu addysg o safon uchel i fyfyrwyr am flynyddoedd i ddod.”

Ar ran Coleg Galwedigaethol Enniscorthy, dywedodd Mr Liam Sharkey: “Fel cynfyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth mae cael ail-gysylltu gyda lle sydd yn llawn atgofion melys im, a chynnig cyfleoedd a’r atgofion i raddedigion PLC Enniscorthy yn gyfle i gyflawnu rhywbeth a fu’n uchelgais ers cryn amser.”

“Mae’r cyfnod newydd hwn o gydweithio ar draws y sianel gyda sefydliad o safon Prifysgol Aberystwyth yn fraint ac anrhydedd i ni. Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu’r ddealltwriaeth er  lles y ddau sefydliad a’n cymunedau,” ychwanegodd.

AU18812