Hau’r hadau

Myfyrwyr yn gweithio yn y maes yn IBERS.

Myfyrwyr yn gweithio yn y maes yn IBERS.

12 Mehefin 2012

Am y tro cyntaf, bydd Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth yn arddangos yn ‘Cereals’, digwyddiad technegol blaenllaw ar gyfer y diwydiant âr yn y DG, a gynhelir rhwng 13-14 Mehefin yn Swydd Lincoln.
Bydd IBERS yn arddangos gwaith ymchwil gyda ffocws ar geirch a miscanthus, a elwir hefyd yn wair eliffant Asiaidd; ynghyd a’r cyrsiau a'r cyfleusterau sydd ar gael yn Aberystwyth, sy'n cynnwys cyfleusterau o'r radd flaenaf adeiladau, cyfleusterau ymchwil a labordai.

Esboniodd Dr Iwan Owen, rheolwr y cwrs graddau Amaethyddiaeth yn IBERS, "Does dim amser mor gyffrous a nawr wedi bod i gymryd rhan mewn amaethyddiaeth. Mae nifer o fawr newidiadau yn digwydd a chyfleoedd cyffrous yn ymddangos nid yn unig yn genedlaethol, ond ar raddfa fyd-eang.

"Mae'r diwydiant yn ei gyfanrwydd yn mwynhau llwyddiant mawr ar hyn o bryd ac mae’r dyfodol yn argoeli'n dda ar gyfer yr unigolion hynny sy'n ystyried gyrfa yn y diwydiant amaethyddol. Mae gyrfaoedd yn cynnwys rheoli fferm, ymgynghoriaeth, llywodraeth leol a chenedlaethol, y amaeth-amgylcheddol yn ogystal ag ymchwil a datblygu.”

Fe wnaeth cynlluniau gradd Amaethyddiaeth a Gwyddorau Biolegol a ddarperir gan IBERS, sgorio y marciau uchaf mewn Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol (NSS) y llynedd ar gyfer y DG gyfan.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Sefydliad, yr Athro Wayne Powell, "Mae ymrwymiad ac arbenigedd y staff, yr adnoddau ardderchog megis ffermydd, labordai ac amgylchedd Aberystwyth, i gyd yn cyfuno i wneud IBERS yn ddewis cyntaf amlwg.

“Mae ymchwil yn cael ei wneud yma yn IBERS sy’n mynd i'r afael â rhai o'r materion mwyaf pwysig a wynebir gan y byd heddiw, gan gynnwys, newid yn yr hinsawdd, bwyd a diogelwch dŵr, a'r angen i ddisodli tanwyddau ffosil.

"Mae ymchwilwyr a leolir yn y DG ac yn rhyngwladol yn cael y dechnoleg ddiweddaraf sydd ar gael iddynt er mwyn datblygu mathau cnwd newydd sy'n gallu ffynnu mewn amodau heriol a gwneud cyfraniad sylweddol i gynhyrchu bwyd yn y dyfodol."

Mae pob un o'r cyrsiau sydd ar gael yn Aberystwyth nid yn unig yn cynnig gwybodaeth technolegol a gwyddonol a’r ymwybyddiaeth o ymchwil arloesol ond hefyd profiad ymarferol ar sgiliau sydd eu hangen i fod yn llwyddiannus gyda phrofiad gwaith yn y diwydiant yn nodwedd bwysig o bob cwrs.

Bydd mwy na 470 o gyflenwyr blaenllaw yn dod at ei gilydd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn Cereals i 26,900 o ymwelwyr ar y cynnyrch diweddaraf, yn amrywio o hadau i chwistrellwyr, mathau cnwd i offer amaethu, gwrteithiau ac ariannu.

AU19412