Myfyriwr Graddedig y Flwyddyn

Peter Weller, sydd ar rhestr fer Myfyriwr Graddedig y Flwyddyn.

Peter Weller, sydd ar rhestr fer Myfyriwr Graddedig y Flwyddyn.

20 Mehefin 2012

Mae myfyriwr Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth, Peter Faraday Weller, sy'n perthyn o bell i’r ffisegydd a’r cemegydd enwog Michael Faraday, ymysg y pump olaf yn rownd derfynol cystadleuaeth Graddedigion y Flwyddyn eleni.

Er ei fod yn hollol fyddar, mae’r myfyriwr 22 oed sydd yn ei drydedd flwyddyn yn ddatblygwr meddalwedd talentog iawn â enillodd Ysgoloriaeth Google Ewrop i Fyfyrwyr ag Anableddau ac hefyd lleoliad yr haf yn 2011 yn IBM.

Mae cystadleuaeth Myfyriwr Graddedig y Flwyddyn yn cael ei noddi gan y wefan chwilota swyddi Adzuna. Caiff ei chynnal ar ffurf pleidlais gyhoeddus ac mae'n agored i raddedigion ar draws y DG gyfan ym mhob disgyblaeth. Y dyddiad cau ar gyfer pleidleisiau yw dydd Sadwrn 30 Mehefin.

Fel yr eglura Carolyn Parry, Dirprwy Gyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, "Hoffem longyfarch Peter ar beth mae wedi ei gyflawni hyd yma ac rydym hefyd yn dymuno'n dda iddo ar gyfer y dyfodol.  

"Roedd yn bwysig i ni hyrwyddo’r gystadleuaeth yma o fewn y Brifysgol gan fod cyfoeth o dalent yma. Mae Peter yn un o'r myfyrwyr hynny sydd wedi cymryd mantais lawn o'r cyfleoedd gyrfaoedd a datblygu cyflogadwyedd sydd ar gael yma ac mae ei ymroddiad a’i agwedd i’w weld yn ei lwyddiant."

Bydd yr enillydd yn derbyn £1,000, yn cael cynnig profiad gwaith gyda chwmni sy'n seiliedig yn Llundain a sesiwn CV gydag entrepreneuriaid o’r radd flaenaf. I bleidleisio dros Peter, ewch i http://bit.ly/OpTJa0  

Dywedodd Peter, "Hoffwn ddiolch i'r holl bobl hynny sydd wedi pleidleisio drosof hyd yn hyn ac sydd wedi bod yn gefnogol iawn o fy ngwaith a fy ngyrfa. Rwyf wedi bod yn lwcus i gael cymaint o ffynonellau o ysbrydoliaeth ymhlith fy ffrindiau a theulu, gan gynnwys fy ewythr o bell, Michael Faraday.

"Rwyf hefyd wedi bod yn ffodus iawn fy mod eisoes wedi cael cynnig swydd gydag IBM yn San Jose yng Nghaliffornia ac mae'r swydd newydd yn dechrau ym mis Awst.  Beiriannydd Meddalwedd fydd teitl y swydd ac rwy'n edrych ymlaen yn arw at yr her.

AU20412