Dilyn y gweilch

Bwydo'r gwalch bach.

Bwydo'r gwalch bach.

12 Gorffennaf 2012

Mae Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth (IBERS) yn cydweithio gyda Phrosiect Gweilch-y-Pysgod Dyfi Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Maldwyn i ail-sefydlu poblogaeth gweilch-y-pysgod ar aber Afon Dyfi yng Nghanolbarth Cymru.

Heddiw, cyhoeddodd yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS, nawdd ar gyfer dyfais dilyn GPS sy’n cael ei bweru gan ynni solar, fydd yn galluogi ymchwilwyr i astudio mudo blynyddol yr adar rhwng Cymru a Gorllewin Affrica.

Dywedodd yr Athro Powell "Rydym yn falch iawn o gefnogi Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn a chynorthwyo gyda'u prosiect cadwraeth cyffrous. Bydd y bartneriaeth hon yn darparu IBERS a'i myfyrwyr gyda chyfleoedd ymchwil nawr ac yn y dyfodol, mae Prifysgol Aberystwyth yn croesawu'r cyfle i wneud cyfraniad cadarnhaol at warchod yr amgylchedd.

"Bydd gwyddonwyr yn dechrau trwy gynnal astudiaethau mudo a dietegol; ac mae astudiaethau DNA a dadansoddi genetig yn ardal ymchwil arall wrthi'n cael ei ddatblygu. Yn y dyfodol, bydd potensial i ddefnyddio Gwarchodfa Natur Cors Dyfi fel lle dysgu awyr agored ac adnodd addysgu ar gyfer myfyrwyr prifysgol."

Esboniodd Vicky King, Cydlynydd Prosiect Ymchwil llawn-amser yn IBERS, a gwirfoddolwraig rheolaidd gyda Phrosiect Gweilch y Dyfi "Bydd cyw gwalch-y-pysgod 2012 yn cael ei fodrwyo a’i wisgo gyda dyfais dilyn GPS yn ystod y ddau ddiwrnod nesaf. Mae gan yr uned fywyd gweithredol o tua phum mlynedd a bydd yn trosglwyddo lleoliad rheolaidd a data patrwm hedfan, ac yn ein galluogi i ddilyn yr aderyn wrth iddo ymfudo fwy nag unwaith.

"Bydd dysgu mwy am ymddygiad, llwybrau mudo, lleoliadau aros a chynefinoedd gaeafu gwalch-y-pysgod yn galluogi i gadwraethwyr eu hamddiffyn yn well. Bydd y ddyfais dilyn GPS hefyd yn ein helpu i ddeall dychweliad mudo cyntaf o adar anaeddfed a sut y maent yn lleoli yn ôl i'r DG a dewis safleoedd nythu. Mae hwn yn brosiect ymchwil tymor hir cyffrous iawn a fydd yn cyfrannu tuag at ymdrechion cadwraeth yn y dyfodol.”

Dywedodd Rheolwr Prosiect Gweilch y Dyfi, Emyr Evans, “Mae gweithio mewn partneriaeth â'n prifysgol leol yn caniatáu i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn ddatblygu a gwella ein dysgu a’n dealltwriaeth o'r adar ysglyfaethus godidog oedd, tan yn ddiweddar, wedi diflannu yng Nghymru.

" Trwy gymhwyso arbenigedd Prifysgol Aberystwyth wrth brosesu'r data gwyddonol a fydd ar gael o ganlyniad i'n partneriaeth, rydym yn gobeithio ennill gwybodaeth werthfawr ac ar flaen y gad am ecoleg a mudo gwalch-y-pysgod a fydd yn y pen draw yn cynorthwyo yn eu cadwraeth ac adfer yng Nghymru a thu hwnt."

Mae dau o fyfyriwr IBERS eisoes wedi dechrau eu prosiectau ymchwil; un yn edrych ar lwybrau mudo gweilch-y-pysgod ifanc; a’r ail yn ymchwilio sut mae amodau amgylcheddol yn dylanwadu ar ddewis ysglyfaeth gweilch-y-pysgod.

Nid dyma'r tro cyntaf i IBERS weithio gyda'r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt. Yn gynharach eleni fe wnaeth myfyrwyr o'r adran helpu i osod bron i un cilomedr o gebl ffibr-optig wedi’i orchuddio, o'r ganolfan ymwelwyr i nyth gweilch-y-pysgod, sydd wedi galluogi ffrydio-fideo byw o fanylder uchel, sain a data gwyddonol gael eu casglu am y tro cyntaf.

Hanes Gweilch-y-Pysgod yn y DG

Roedd Gweilch-y-Pysgod unwaith yn gyffredin ledled Cymru ac yn rhan fwyaf o Brydain ond fe’u helwyd i ddifodiant yn y DG 100 mlynedd yn ôl. Yn y 1950au canol, fe wnaethant ddechrau ail-gytrefu yn ardaloedd anghysbell yr Alban. Yn dilyn prosiect trawsleoli llwyddiannus gan Swydd GaerlÅ·r ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Rutland, gan ddechrau yn 1996 fe ddechreuodd y boblogaeth Saesneg hefyd i dyfu. Roedd hyn o bwys mawr i boblogaeth gweilch-y-pysgod yng Nghymru. Yn 2011 cyrhaeddodd gwalch-y-pysgod benywaidd o Rutland ar aber Afon Dyfi a pharu gyda phreswylydd gwrywaidd, gan arwain at dri chyw yn cael eu geni ar yr aber am y tro cyntaf ers dros 400 mlynedd.

Hanes y Gweilch yng Nghymru ac ar aber Afon Dyfi

• Mae’r gweilch wedi mudo dros aber Afon Dyfi ers nifer o flynyddoedd

• 2007, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Maldwyn yn codi llwyfan nythu artiffisial yng Ngwarchodfa Natur Cors Dyfi

• Y llwyfan nythu wedi ei ddefnyddio bob blwyddyn ers ei godi, ond dim bridio tan 2011

• 2011, gwryw yn cymryd meddiant o’r nyth Dyfi, ac yn paru gyda benyw o Rutland; roedd ei rhieni yn rhan o'r prosiect trawsleoli

• 2011, gweilch-y-pysgod yn bridio ar aber Afon Dyfi am y tro cyntaf ers dros 400 mlynedd

• 2011, tri chyw wedi eu magu yn llwyddiannus ac wedi ymfudo i diroedd gaeafu Affricanaidd

• 2012, yr un oedolyn yn dychwelyd i'r Dyfi, tri wy wedi’i osod, pob un wedi deor, dau gyw yn marw oherwydd amodau tywydd eithafol.

AU20612