Terynged i fyfyriwr hynaf 2012

Roger Roberts

Roger Roberts

17 Gorffennaf 2012

Yn 82 oed, graddiodd y diweddar Roger Roberts gyda Baglor mewn Astudiaethau Economaidd a Chymdeithasol mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Graddiodd Roger, a oedd yn byw yn Aberystwyth, ar ddydd Mawrth 10 Gorffennaf ar ôl astudio am bedair blynedd. Cymerodd fwy o amser nag arfer i gwblhau ei radd o gan iddo ddioddef o afiechyd gwael yn ystod dwy flynedd olaf. Hon oedd ei ail radd - yn 2005 graddiodd gyda BA Anrhydedd mewn Astudiaethau Americanaidd.

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Yr ydym yn drist o glywed y newyddion am farwolaeth  Mr Roberts, ac yr roedd yn anrhydedd inni ei fod wedi gwneud y Brifysgol yn rhan o’i fywyd llawn. O ystyried ei iechyd bregus yr oedd ei lwyddiant yn gamp ac roedd pawb yn gwerthfawrogi’r ffaith iddo fynychu’r seremoni raddio ddydd Mawrth. "

Dywedodd yr Athro Michael Foley, Pennaeth yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol: "Yn fy nghyfarchiad ger bron y graddedigion newydd ddydd Mawrth, soniais am y ffaith fod pob un ohonynt wedi wynebu her a sialensau personol i gyrraedd eu nod ar y diwrnod hwnnw. Roedd camp Roger ar flaen fy meddwl, gan iddo gyrraedd y copa wedi dringfa galed, ond o ganlyniad i hynny rwy’n siwr y bu’r olygfa o'r brig yn un gwerth ei gweld.

"Nid ennill gradd yn unig a wnaeth Roger, cynhesodd ein calonnau a chododd ein hysbryd. Creodd argraff ar ei gyd-ddisgyblion a’i athrawon gyda chyfuniad o benderfyniad ffyrnig yn gymysg ȃ dôs o ddiriedi.

"Profodd yn bendant nad yw oedran ddim yn rwystr i lwyddiant na phrofiad newydd. Mae hyn yn fuddugoliaeth i'r ysbryd ddynol, ac adlewyrchwyd hynny yn y gymeradwyaeth fonllefus a hebryngodd Roger i’r llwyfan yn y seremoni raddio. Roedd yn deyrnged addas i’r hyn a gyflawnodd yma.”

Hoffai’r Brifysgol gymryd y cyfle hwn i gydymdeimlo’n ddiffuant ȃ theulu’r diweddar Mr Roberts.

AU23912