Gwobr Glyndŵr

Dr David Russell Hulme yn derbyn Gwobr Glyndŵr oddi wrth yr Athro April McMahon.

Dr David Russell Hulme yn derbyn Gwobr Glyndŵr oddi wrth yr Athro April McMahon.

24 Awst 2012

Cyfarwyddwr Cerdd y Brifysgol, Dr David Russell Hulme, yw enillydd Gwobr Glyndŵr 2012.

Cafodd y wobr ei chyflwyno i Dr Hulme gan yr Athro April McMahon ar ddydd Gwener 24 Awst, yn ystod Gŵyl Machynlleth.
Rhoddir Gwobr Glyndŵr yn flynyddol gan Ymddiriedolaeth y Tabernacl ym Machynlleth i anrhydeddu unigolion ym meysydd cerddoriaeth, celf a llenyddiaeth, am eu cyfraniad rhagorol at y celfyddydau yng Nghymru.

Mae enillwyr blaenorol yn cynnwys Ian Parrott, Alun Hoddinot, Robin Huw Bowen, Syr Kyffin Williams a Gillian Clarke.
Mae Dr Hulme yn awdurdod blaenllaw ar gerddoriaeth Brydeinig ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif,  ac yn arbenigo mewn cerddoriaeth theatr, opereta ac  yn benodol  ar weithiau Arthur Sullivan a’r cyfansoddwr Eingl-gymreig, Edward German.

Mae wedi cyhoeddi'n helaeth gan gynnwys llyfrau a chyfnodolion arbenigol, a hefyd  nodiadau rhaglen ar gyfer Proms y BBC, cwmnïau recordio ac opera. Yn 2000 cyhoeddodd Gwasg Prifysgol Rhydychen ei rifyn arloesol o Ruddigore - sydd ar hyn o bryd yn rhan o repertoire Opera North. Dilynwyd hyn gan argraffiadau  o waith  Haydn, Offeren yn Amser Rhyfel ac 2il Symffoni William Walton ar gyfer y wasg honno, yn ogystal â rhifynnau ar gyfer cyhoeddwr eraill.

Mae Dr Hulme yn anarferol gan ei fod wedi ennill enw da yn rhyngwladol drwy ei waith fel  ysgolhaig a pherfformiwr rhagorol o fewn yr un maes. Mae’n gyd-ddisgybl i Syr Adrian Boult, ac wedi cynnal operetta Prydeinig ledled y byd, yn enwedig gyda Chwmni Opera enwog Carl Rosa,a deithiodd Awstralia, Seland Newydd, yr Unol Daleithiau a Chanada. Ymddangosodd mewn gwyliau ym mhellafoedd byd megis Christchurch, Seland Newydd, gyda Royal Opera Canada a Gŵyl Rynglwadol Gilbert a Sullivan yn Buxton. Mae ei recordiad o Tom Jones gan  Edward German  wedi cyrraedd Rhif 3 yn y siartiau clasurol.

Graddiodd o Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, a dychwelyd i fod yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth cyntaf y Brifysgol yn 1992. Sefydlodd Canolfan Gerdd y Brifysgol, gan ddatblygu rhaglen a olygodd fod  y Brifysgol wedi datblygu i fod yn un o brif ganolfannau creu cerddoriaeth yng Nghymru.

Fel arweinydd  yr Undeb Gorawl,  Philomusica, Sinffonia'r Brifysgol a Chymdeithas Gorawl Aberystwyth fe drefnodd perfformiadau o safon uchel a rhaglenni llawn dychymyg. Rhoddodd fry ar gerddoriaeth Brydeinig  a chyflwynodd weithiau gan gyfansoddwyr Cymreig ac Eingl-Gymraeg, megis Grace Williams, Morfydd Owen, Joseph Parry, Ian Parrott, William Mathias, Arwel Hughes, Edward German a Karl Jenkins.

Yn benodol, mae Dr Hulme yn parhau i wneud cyfraniad pwysig i gadw'r traddodiad corawl Cymreig gwych o gyflwyno gweithiau mawr yn fyw, megis  Breuddwyd Gerontius, Elijah,  Requiem Verdi - ac  wrth gwrs, y Messiah.

'Rwyf wrth fy modd yn derbyn anrhydedd o’r math', dywedodd Dr Hulme. 'Mae'n cydnabod yr hyn a gyflawnwyd gan y Brifysgol a’r unigolion sy'n gwneud Aber yn lle mor ffyniannus ar gyfer cerddoriaeth. Cefais fy ngeni a’m magu ym Machynlleth ac rwy'n falch iawn o gael dychwelyd adref ar gyfer yr achlysur arbennig iawn.'

AU28212