Dyddiaduron coll

Robert Meyrick, Pennaeth yr Ysgol Gelf

Robert Meyrick, Pennaeth yr Ysgol Gelf

12 Hydref 2012

Mae'r chwilio am ddyddiaduron coll a allai ddarparu cliw hanfodol i darddiad y llun dadleuol a gyflwynwyd yng Ngenefa fis diwethaf fel llun gwreiddiol a chynharach o’r Mona Lisa gan Leonardo da Vinci, wedi denu sylw cyfryngau'r byd.

Mae Robert Meyrick, Pennaeth yr Ysgol Gelf ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn hela am gyfnodolion yr arbenigwr a’r casglwr celf Prydeinig, Hugh Blaker, a brynodd y llun yn 1913.

Fe’u postiwyd i'r Unol Daleithiau o Brydain yn y 1960au, ac mae stori am yr helfa amdanynt wedi’i hadrodd ar gannoedd o gyfryngau newyddion rhyngwladol sy'n cynnwys y Chicago Tribune ac NBC News i’r The Himalayan Times, Caribbean Herald a Talk Vietnam.

Ystyrid Robert Meyrick fel prif arbenigwr y byd ar Blaker, ac yng Nghymru adnabyddir ef orau fel ymgynghorydd lluniau i’r chwiorydd Davies o Blas Gregynog. Fe’i gwahoddwyd ef i siarad yn nadorchuddiad Mona Lisa Isleworth yng Ngenefa.

Esboniodd Robert Meyrick "Mewn tro nodweddiadol o'r byd celf, diflannodd y dyddiaduron ac ymddengys nad oedd y cyfeiriad yn Washinton lle’u danfonwyd hwynt wedi bodoli erioed.

"Gallai’r papurau hynny brofi’n allweddol i heneiddio hynafiaeth y fersiwn hon o'r Mona Lisa o leiaf 150 o flynyddoedd."

Darganfu Blaker, adolygydd celf ac arlunydd a oedd yn guradur amgueddfeydd a deliwr celf a chanddo enw da am adnabod Hen Feistri coll, y "Mona Lisa iau" ym mhlasty uchelwr yn Somerset, ac fe’i prynodd.

Yr oedd yn argyhoeddedig nad oedd copi mo’r llun, ond yn hytrach, ei fod yn fersiwn o'r Mona Lisa a baentiwyd yn stiwdio’r Meistr. Cadwodd y llun yn ei gartref yn Isleworth, Llundain, hyd oni yr etifeddwyd ef gan ei chwaer Jane ar ei farwolaeth yn 1936.

Ond, nid adroddod Blaker enw'r plasty na'r gwerthwr wrth neb. Mae Meyrick yn awyddus i ddatrys y dirgelwch hwnnw ar gyfer bywgraffiad y bwriada’i ysgrifennu.

"Rwy'n credu ei bod hi’n bosib iawn ei fod wedi rhoi’r manylion yn ei ddyddiaduron. Nid yw’r dyfyniadau byr iawn a gyhoeddwyd gennym yn rhoi unrhyw syniad. Os oes gennym yr wybodaeth, dylem fod yn gallu olrhain sut y daeth i feddiant y teulu yn Somerset, a ym mhle."

Mae Meyrick yn meddwl i’r llun gael ei brynu gan y teulu bonheddig wrth iddynt fynd ar Daith Fawr ar draws Ewrop yn y 18fed ganrif. Dyma sut y daeth llawer iawn o weithiau mawr y byd celf Ewropeaidd i Brydain.

Yn dilyn marwolaeth Jane Blaker yn 1947, pwrcaswyd y llun ymhen amser gan Henry Pulitzer, ac wedi hynny bu’n cuddio am ymron i hanner canrif yng nghladdgelloedd banc Swisaidd, tan ddyddiad y cyflwyniad fis diwethaf gan Ymddiriedolaeth y Mona Lisa.

Yn y sesiwn honno, canmolodd Alessandro Vezzosi, arbennigwr ar Leonardo, ansawdd y darlun, ond ymataliodd rhag cymeradwyo honniad y Sefydliad mai gwaith Leonardo, a fu farw yn 1519, ydoedd. Er mwyn cadarnhau hynny, mae angen gwneud llawer mwy o waith, dywedodd Vezzosi.

Mae rhai arbenigwyr, nad oeddent yn bresennol, fel yr athro Martin Kemp o Brifysgol Rhydychen, yn edrych arno fel copi gwael - er, fel nododd Stanley Feldman aelod o’r Sefydliad, nid yw Kemp erioed wedi gweld y portread.

"Mae'r ddadl yn tanlinellu pwysigrwydd y dyddiaduron," meddai Robert Meyrick.

Ar ôl marwolaeth Blaker, pasiwyd ei lyfrgell a’i bapurau at ei gyfaill, yr arlunydd Murray Urquhart.

Cyn iddo farw yn 1972 dywedodd Urquhart, oedd a chanddo fab o’r enw Brian oedd yn ffigwr allweddol yn y Cenhedloedd Unedig yn y 1970au a'r 80au, ei fod wedi anfon dyddiaduron Blaker at ymchwilydd o’r enw Charles Woods oedd wedi ysgrifennu ato gan ofyn am gael eu gweld.

Yn ôl Urquhart, fe’u postiwyd at Woods i 116½ Maryland Drive, Washington DC, ond ni clywodd dim byd pellach am y mater. "Y cyfan y gallaf ei gadarnhau yw nad oes unrhyw gyfeiriad o'r fath, ac mae'n debyg na fu erioed," meddai Meyrick.

Nid oes unrhyw gofnod o fodolaeth Woods chwaith.

Ond yn 2010, mewn ymateb i apêl ar ei wefan (www.robertmeyrick.co.uk), danfonwyd dyddiaduron Blaker ar gyfer y pum mlynedd olaf ei fywyd at Meryrick gan deulu a ddaeth o hyd iddynt flynyddoedd yn gynharach mewn siop sothach yn Gravesend yng Nghaint.

"A wnaeth yr holl bapurau ddiweddu fel sbwriel yn y pen draw, neu a wnaeth y dyddiaduron cynharach fynd i Washington?" gofynodd Robert. "Efallai na fyddwn ni byth yn gwybod, ond rwy’n bwriadu dal ati i edrych."

AU34812